Covid-19: Cymru'n anfon offer achub bywyd i helpu India

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething (canol) yn ymweld â chanolfan yng Nghasnewydd sy'n paratoi anfon yr offer

Bydd 1,000 o ddarnau o offer achub bywyd yn cael eu hanfon o Gymru i ysbytai yn India i helpu gydag argyfwng Covid yn y wlad.

Mae ysbytai yn brwydro i drin cleifion gyda phrinder ocsigen a meddyginiaethau yn sgil ail don ddinistriol o heintiau.

Mae miloedd o bobl wedi marw yn dilyn ymchwydd mewn achosion Covid.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi crynhowyr ocsigen ac awyryddion fel rhan o ymdrechion i helpu.

Cymru yw'r wlad ddiweddaraf i ateb galwadau gan feddygon yno sydd angen cyflenwadau meddygol.

"Oherwydd bod y sefyllfa yng Nghymru yn llawer gwell roedd gennym offer dros ben y gallem allu chwarae ein rhan fach wrth helpu," meddai Mark Roscrow o GIG Cymru.

Mae Dr Keshav Singhai, Cadeirydd Cymru Cymdeithas Meddyg Tarddiad Indiaidd Prydain, wedi bod yn rhan o gydlynu'r ymateb i gais India am help.

Dywedodd: "Dyma un o'r llwythau mwyaf o offer achub bywyd sy'n dod o'r DU.

"Mae wedi bod yn waith dwys iawn am yr wythnos ddiwethaf," ychwanegodd.

"Rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn anhygoel o bwerus oherwydd bod swyddogion yn gweithio trwy'r penwythnos."

Bydd yr offer yn cael ei anfon i ysbytai yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf yn India.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn India yn argyfyngus

Amrywiad Indiaidd

Mae India wedi cofnodi mwy na 19m o achosion o coronafeirws - y nifer uchaf tu ôl i'r Unol Daleithiau.

Mae gwyddonwyr yn edrych i weld a allai amrywiad Indiaidd newydd fod y tu ôl i'r cynnydd mewn achosion.

Ymwelodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething â chanolfan ddosbarthu'r GIG yng Nghasnewydd sy'n paratoi i anfon yr offer ddydd Llun.

Gofynnwyd i'r gwasanaeth iechyd ledled y DU gyflenwi adnoddau.

Cafodd y warws 250,000 troedfedd sgwâr hefyd ei ddefnyddio i bentyrru deunydd cyn Brexit.

Mae cyflenwadau PPE a brechlyn yn cael eu cadw ar y safle. Mae labordai prawf Covid hefyd wedi'u hadeiladu yno.

Pynciau cysylltiedig