Galw am oedi ffioedd prifysgol i dalu am ofal teulu yn India

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty yn Delhi
Disgrifiad o’r llun,

Dydy ysbytai yn Delhi ddim yn gallu ymdopi gyda'r galw am driniaeth wrth i nifer yr achosion gynyddu

Mae myfyrwyr o India sy'n astudio yng Nghymru yn galw am oedi eu ffioedd dysgu er mwyn gallu anfon pres yn ôl at eu teuluoedd wrth i Covid-19 rwygo drwy'r wlad.

Dywedodd y grŵp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd eu bod eisiau defnyddio unrhyw arian sydd ganddyn nhw wrth law i brynu nwyddau meddygol a bwyd yn ôl yn India.

Mae'r wlad yn profi ail don ddychrynllyd o achosion, gydag ysbytai'n cael trafferth ymdopi, ac yn brin o ocsigen a nwyddau hanfodol.

I rai o'r myfyrwyr wnaeth siarad gyda BBC Cymru, dydy eu teuluoedd bellach methu talu'r miloedd o bunnau mewn ffioedd sy'n ddyledus erbyn diwedd y mis.

Dywedodd y myfyrwyr eu bod wedi gofyn i'r brifysgol oedi'r ffioedd am dri mis, ond bod llawer o'r ceisiadau wedi eu gwrthod.

Dywedodd y brifysgol na fyddai'n gwneud sylw ar achosion unigol, ond y byddai'n parhau i gefnogi myfyrwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad Kylash Indla yn ystod y pandemig

Collodd Kylash Indla ei dad i Covid ychydig fisoedd yn ôl.

"Ar ôl i Dad farw, dydy Mam ddim yn cael unrhyw incwm. Roedd hi'n athrawes breifat, felly nawr dydy hi ddim yn cael cyflog a does dim arian i'r teulu.

"Mae popeth wedi cau lawr, does dim incwm, does dim byd."

Dywedodd nad oedd ei deulu yn India yn rhannu'r holl wybodaeth am y sefyllfa, ond ei fod wedi clywed am berthnasau'n marw oherwydd y diffyg ocsigen.

Mae dros 1,000 achos y dydd yn ei dref enedigol, meddai, a'i bryder ydy bod neb yn helpu ei fam a'i chwaer.

'Allwn ni ddim talu yn syth'

Mae India wedi cadarnhau 17 miliwn o achosion a dros 200,000 o farwolaethau.

Mae firolegwyr yn dweud y gallai nifer yr achosion barhau i gynyddu am ddwy neu dair wythnos arall.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r myfyrwyr yn bwriadu talu, ond mae eu teuluoedd angen yr arian ar hyn o bryd, meddai Nithi

Cafodd cais Nithi, sy'n astudio am radd Meistr, i gael oedi rhag talu ei ffioedd dysgu ei wrthod.

Ond dywedodd ei bod yn obeithiol y byddai cais ar y cyd gan y myfyrwyr yn gweithio.

"Mae ein teuluoedd yn diodde', sy'n straen meddyliol i ni yn barod," meddai.

"'Da ni yn bwriadu talu, ond allwn ni ddim talu'n syth.

"Mae'r brifysgol yn gweld y sefyllfa yn India, mae'r holl sefydliadau ariannol yn dymchwel ar hyn o bryd."

Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei bod yn annog unrhyw fyfyrwyr mewn trafferthion ariannol i gysylltu â nhw cyn gynted â phosib.

Ychwanegodd llefarydd: "Ers i'r newyddion ddod o India, mae ein tîm wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi myfyrwyr yma yng Nghaerdydd, yn ogystal â'r rhai sy'n astudio o bell, gan gynnig cefnogaeth a chyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael."