Athletwyr ifanc Ceredigion yn dioddef fwy na'r gweddill?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Roedd e'n anodd peidio chwarae pêl-fasged'

Mae athletwyr ifanc yn Aberystwyth yn dweud ei bod hi'n annheg eu bod nhw wedi methu defnyddio canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon awyr agored yn ystod y pandemig.

Yn wahanol i siroedd eraill Cymru, mae cyfleusterau dan do ac awyr agored yng Ngheredigion wedi aros ar gau - ar wahân i ychydig wythnosau ym mis Medi - fel rhan o fesurau rheoli Covid-19.

Mae pobl ifanc yn meddwl bod y diffyg cyfle i ymarfer yn golygu eu bod o dan anfantais o gymharu â phobl mewn siroedd eraill.

Dywed Cyngor Ceredigion nad oedd cadw'r cyfleusterau ar gau yn benderfyniad hawdd, a'i fod yn "fesur rhagofalus yn erbyn lledaeniad y coronafeirws".

Pe bai'r canolfannau hamdden ar agor, roedd y cyngor yn ofni y byddai plant o wahanol swigod yn cymysgu mewn clybiau chwaraeon gan ei gwneud hi'n anoddach i reoli'r feirws.

'Heb chwarae ers mis Chwefror'

Mae Kai Hamilton Frisby, 14, wedi chwarae pêl-fasged cadair olwyn i Gymru. Cafodd ei eni â pharlys yr ymennydd.

"Mae'n rhoi cyfle i mi deimlo fy mod i'n gyfartal," meddai Kai. "Pan mae gennych chi anabledd ry'ch chi'n teimlo eich bod chi'n sownd ar silff ac mae pobl eraill bob amser yn uwch na chi.

"Ond mae pêl-fasged cadair olwyn yn rhoi cyfle i mi weld llygad i lygad. Mae'n caniatáu imi fod gyda phobl sy'n mynd trwy'r un peth.

"Roedd fy ngêm olaf ym mis Chwefror a dwi ddim wedi cael sesiwn ymarfer ers hynny. Felly dwi wedi gorfod gwneud popeth o gartref.

"Ychydig iawn o bêl-fasged dwi wedi gwneud, felly mae'n siŵr bod fy sgiliau wedi cwympo ychydig."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kai ei ddewis i dîm dan-15 Cymru yn 2018 ac fe gynrychiolodd ei wlad am ddwy flynedd yn olynol

Cyn y pandemig roedd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Aberystwyth yn ymarfer yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, sydd wedi'i drawsnewid yn ysbyty maes ers mis Ebrill.

Gallai aros fel ysbyty maes am 18 mis arall.

Mae Kai yn ymarfer driblo a phasio gyda'i hyfforddwr a'i ofalwr Lee Coulson ar bromenâd Aberystwyth.

Ond dywed Lee nad yw'n cyfateb ag ymarfer ar gwrt iawn.

"Mae wedi bod yn anodd iawn i'r bobl ifanc, ac yn bendant i Kai," meddai Lee.

"Does gennym ni ddim cyfleuster dan do nac awyr agored i hyfforddi ynddo. Felly bu'n rhaid i ni ddefnyddio adnoddau ar-lein a gwneud yr hyn a allwn [ond] allwch chi ddim efelychu beth ni'n gallu gwneud dan do.

"Mae wedi cael effaith fawr ar bawb - o'r dechreuwyr i'r athletwyr elit fel Kai a fydd yn gorfod brwydro nawr i fynd yn ôl i'r safon iawn ar gyfer y treialon i Gymru."

'Fwy diogel na mynd i'r siop'

Mewn camp wahanol mae pryderon tebyg.

Gan nad yw'r gampfa arferol ar gael, mae Clwb Gymnasteg Aberystwyth wedi bod yn talu i ddefnyddio campfa breifat 33 milltir i ffwrdd yn Llandysul.

Nawr mae'r lleoliad preifat yn cau hefyd oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywedodd Joan Morgan, prif hyfforddwr y clwb: "Rwy'n deall pam mae'r cyngor wedi ei wneud a'r rhesymau drosto. Ond dwi ddim yn gweld pam na allem hyfforddi ar raddfa lai.

"Dwi wedi cael cwpl o rieni yn dweud bod ein sesiynau ni yn fwy diogel na thaith i'r archfarchnad.

"Ry'n ni'n glanhau offer ar ôl pob defnydd, mae hylif diheintio trwy'r gampfa.

"Doedden ni ddim yn cael cefnogi'r plant yn gorfforol, ond ro'n nhw'n dal i gael yr hyn roedd ei angen arnynt mewn amgylchedd diogel.

"Maen nhw wedi gweithio mor galed i gyrraedd lefel benodol. A nawr maen nhw'n colli rhai o'r sgiliau.

"Mae'r rhai sydd yng ngharfan ddatblygu Cymru yn cael hyfforddiant ar-lein bob dydd Sul, ond allan nhw ddim ymarfer y pethau maen nhw'n dysgu oherwydd does gennym ni ddim y cyfleusterau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Seth bod cau'r cyfleusterau wedi effeithio'n gorfforol ac yn feddyliol ar aelodau

Dywedodd Seth Page, aelod a hyfforddwr yn y clwb: "Ni'n gweld fideos o dimoedd eraill yn ymarfer ac yn gwneud sgiliau newydd ond dy'n ni ddim yn gallu gwneud unrhyw beth.

"Mae'n effeithio'r aelodau yn gorfforol ond hefyd yn feddyliol am nad ydyn nhw yn gallu gweld eu ffrindiau yn y gym nac ymarfer."

Dywed Cymdeithas Chwaraeon Cymru - y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant chwaraeon a hamdden - fod Ceredigion wedi cymryd safbwynt gwahanol ar y mater hwn i bob cyngor arall yng Nghymru.

Dywed Matthew Williams: "Mor belled â 'da ni yn gwybod, Ceredigion yw'r unig sir sydd wedi cadw pethau ar gau - mae pob sir arall yng Nghymru wedi gwneud yn siŵr bod canolfannau yn agor eto ers mis Awst.

"Ac mor bell â 'da ni'n gwybod mae pob canolfan hamdden mewn siroedd eraill ar agor ar hyn o bryd, a dydyn nhw ddim wedi cau heblaw am yn ystod y 'firebreak'. Felly mae Ceredigion yn wahanol i bob sir arall.

"Mae canolfannau hamdden ar draws Cymru yn saff - mae pob canolfan yng Nghymru wedi cymryd camau enfawr i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu gwneud ymarfer corff heb y broblem o gael coronafeirws.

"Hefyd, 'da ni'n gwybod bod y siawns i wneud ymarfer corff yn hynod o bwysig i iechyd corfforol a meddyliol.

"I fod yn deg i Gyngor Ceredigion, 'da ni'n gallu gweld pam maen nhw wedi gwneud hyn - does dim ateb da i'r problemau 'da ni'n gweld.

"Ond achos y benefits i iechyd corfforol a meddyliol pobl, 'da ni'n credu ei bod hi'n bwysig i ganolfannau hamdden aros ar agor gymaint â phosib."

Beth mae'r cyngor yn ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fel awdurdod lleol, mae Ceredigion wedi bod yn rhagweithiol wrth gadw nifer yr achosion o'r coronafeirws yn isel, a arweiniodd at gyfraddau heintio ffafriol o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol wneud yr hyn y mae'n credu sydd orau ar gyfer ei breswylwyr, ac ar ôl ystyried y nifer cynyddol o achosion yn y sir, penderfynwyd y bydd y cyfleusterau hamdden a weithredir gan yr awdurdod lleol yng Ngheredigion yn aros ar gau."

Dywed y cyngor eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithgaredd corfforol.

Ond ychwanegodd y byddai caniatáu i bobl o wahanol ysgolion ac ardaloedd ddod at ei gilydd mewn canolfannau hamdden yn "tanseilio'r camau a gymerwyd gan y sefydliadau hyn i atal y disgyblion rhag cymysgu lle bynnag y bo modd".