Senedd: Llai o aelodau benywaidd yn 'gam yn ôl dros gydraddoldeb'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod y cwymp yn aelodau benywaidd y Senedd yn "gam yn ôl dros gydraddoldeb".
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael senedd gyfartal rhwng y rhywiau yn 2003.
Ond ar ôl yr etholiad ddydd Iau gostyngodd nifer yr aelodau benywaidd o 29 i 26 allan o 60.
Er hynny, roedd hi'n ddiwrnod hanesyddol wrth i'r fenyw gyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol i gael ei hethol i Fae Caerdydd.
Ar ôl cael ei hethol, dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol, Natasha Asghar, fod y Senedd yn "hen ffasiwn iawn" ac y dylai adlewyrchu "cymunedau mwy amrywiol sy'n cynrychioli Cymru go iawn".
Mae Ms Asghar, o Gasnewydd, yn dilyn yn ôl troed ei thad - y diweddar Mohammad Asghar, a fu farw yn 2020 - a oedd yr AS cyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol.
Fel ei thad, bydd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru, a dywedodd ei bod eisiau "ysbrydoli" eraill i wneud yr un peth.
Hi nid yn unig yw'r fenyw gyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol o Gymru i gael ei hethol i Senedd Cymru, ond yn Nhŷ'r Cyffredin a Senedd Ewrop hefyd.
Daw ei hetholiad wrth i'r fenyw gyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol gael ei hethol i Senedd yr Alban yn ei hanes 22 mlynedd.
Dywedodd Ms Asghar y bu "diffyg gwybodaeth" yn ei chymuned ei hun ynglŷn â sut i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, pan ofynnwyd iddi pam roedd hi'n meddwl bod Ceidwadwyr Cymru yn wyn a gwrywaidd yn bennaf.
Soniodd am ddilyn yn ôl troed ei thad, gan ychwanegu: "Roedd bob amser yn dweud wrthyf, 'Natasha rwy'n cael fy mendithio gan dduw i fod yr aelod cyntaf, rwy'n gweddïo at dduw nad fi yw'r olaf'... ac rwy'n falch iawn nad yw hynny'n wir ers hynny."
Yng Nghymru, roedd 43% o'r aelodau a etholwyd ddydd Iau yn fenywod.
Mae hyn yn cymharu â 34% o ASau a etholwyd i Senedd y DU yn etholiad cyffredinol 2019, a 37% yn Senedd yr Alban.
Cyn yr etholiadau roedd menywod yn dal 48% o seddi yn Senedd Cymru, gyda 29 o ferched a 31 o ddynion.
Ar ôl etholiad 2016, roedd 42% o Senedd Cymru yn fenywod ond cododd y niferoedd ar ôl i bedair merch dyngu llw yn ystod tymor y senedd.
Roedd ofnau y gallai pleidlais dydd Iau fod yn "gam enfawr yn ôl" dros amrywiaeth, ar ôl i arolygon barn awgrymu mai dim ond 34% o ymgeiswyr benywaidd oedd wedi bod mewn seddi y gellir eu hennill.
Fe wnaeth nifer o ffigyrau benywaidd allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru sefyll i lawr cyn yr etholiad ddydd Iau. Yn dilyn y bleidlais, mae dynion yn dal eu holl seddi bellach.
Bellach mae gan y blaid fwyaf, Llafur, 17 aelod benywaidd o'r Senedd allan o'u 30 sedd tra bod gan Blaid Cymru bump allan o 13 a'r Ceidwadwyr tair allan o 16.
Jane Dodds - unig ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill sedd yn y Senedd - ydy'r unig arweinydd plaid benywaidd yng Nghymru hefyd.
'Hen bryd cymryd camau'
Dywedodd Cerys Furlong, o'r elusen Chwarae Teg, fod pleidiau wedi cael eu "rhybuddio dro ar ôl tro bod angen gwneud mwy" i sicrhau bod ymgeiswyr amrywiol mewn seddi y gellir eu hennill.
"Rydyn ni'n gwybod beth yw'r rhwystrau i fwy o amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth, mae'n hen bryd cymryd camau i fynd i'r afael â nhw," meddai.
Galwodd am gyflwyno cwotâu, a mwy o fentrau i helpu pobl i sefyll etholiad, fel cyfranddaliadau swyddi i rieni.
"Am gyfnod rhy hir rydym wedi clywed geiriau cynnes am yr angen i ddarparu mwy o amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth, ond nid yn unig nad ydym wedi gwneud cynnydd, mae nifer y menywod wedi gostwng mewn gwirionedd," ychwanegodd.
"Mae Cymru yn haeddu Senedd sy'n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol ac mae gan ein Senedd newydd ei hethol gyfrifoldeb i wireddu hynny."
Dywedodd Jess Blair, o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS), fod y gostyngiad mewn cydraddoldeb yn dangos "pa mor beryglus yw gadael amrywiaeth i bleidiau".
Ychwanegodd fod rhai rhanbarthau wedi bod mewn perygl o fod heb ferched yn eu cynrychioli ar y rhestr yn y Senedd.
"O 2003, ble mai Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflawni senedd gytbwys, mae hwn yn gam enfawr yn ôl," meddai.
"Mae'n amlwg bod angen i ni gyflwyno mesurau statudol cwotâu rhyw o'r fath, wedi'u cysylltu â system etholiadol fwy cyfrannol, i sicrhau nad yw cydraddoldeb yn llithro'n ôl ymhellach."
Record y Ceidwadwyr yn 'ofnadwy'
Dywedodd y cwmni ymgynghori gwleidyddol Deryn fod angen mwy o "weithredu cadarnhaol" i sicrhau cydraddoldeb yng ngwleidyddiaeth Cymru a bod angen i bleidiau "feddwl eto".
Dywedodd Cathy Owens, o Deryn, fod Llafur Cymru wedi ailgyflwyno rhestrau byr gyda merched yn unig, ond bod Plaid Cymru wedi colli seddi allweddol oedd gan fenywod.
"Mae'r Ceidwadwyr yn parhau i fod â record ofnadwy o ran cynrychiolaeth," meddai.
"Mae'n wych bod gan y Ceidwadwyr y fenyw gyntaf o liw yn y Senedd, ond mae angen iddyn nhw ddechrau gweithredu nawr i sicrhau bod eu hymgeiswyr yn yr etholiad nesaf yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021