Aelod Senedd yr Alban yn tyngu llw yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Senedd yr Alban wedi tyngu llw yn Gymraeg mewn seremoni yn Holyrood.
Mae Rachael Hamilton yn cynrychioli Ettrick, Roxburgh a Berwickshire ers 2017.
Fe gadwodd ei sedd yn gyfforddus yn etholiadau'r Alban yr wythnos ddiwethaf gyda 51.5% o'r bleidlais.
Cafodd yr aelod Ceidwadol ei geni yn Aberhonddu ond cafodd ei haddysgu yn Henffordd ac yn Sir Amwythig.
Yn 2008, daeth yn gyfarwyddwr y busnes lletygarwch teuluol sydd wedi'i leoli yn ne'r Alban.
Fore Iau, darllenodd y llw:, dolen allanol "Yr wyf i yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi."
Mae aelodau wedi tyngu llw mewn ystod o ieithoedd fore Iau gan gynnwys BSL, Arabeg, Wrdw, Gaeleg ac Almaeneg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd25 Awst 2017