Ateb y Galw: Y gantores SERA

  • Cyhoeddwyd
seraFfynhonnell y llun, SERA

Y gantores a'r gyfansoddwraig SERA sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Eve Goodman yr wythnos diwethaf.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae SERA (Sera Zyborska) wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn Saesneg a Chymraeg ers tro a bydd rhai'n ei chofio'n perfformio ers talwm fel Sarah Louise. Yn 2020 rhyddhaodd SERA ei halbym newydd, When I wake up, ac mae hi hefyd yn rhan o'r band Americana newydd Tapestri gyda Lowri Evans a'r ddeuawd werin Eve & Sera gyda Eve Goodman.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ein cath bach cyntaf yn dod atom, Tiddles. Roeddwn i tua dwy oed dwi'n meddwl. Cath fach lwyd oedd ar y ffordd i'r afon a Dad wedi dod â hi adra. Roedd hi'n arfer cerdded efo fi at gornel stryd pan o'n i'n mynd i'r ysgol ac oedd hi yna pan o'n i'n cerdded adra. Ddaru hi fyw tan yn 21 oed, chwarae teg iddi!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mharti priodas yn Awst 2019 - dawnsio trwy'r nos wrth Afon Menai. Yr hairdo a'r colur yn llanast erbyn hyn a gormod o coctêls! Ond cofio gweld gwynebau hapus pawb, a dyna'r tro dwytha i fi weld lot o ffrindiau a theulu gan bod ni mewn lockdown yn fuan yn 2020.

Ffynhonnell y llun, SERA
Disgrifiad o’r llun,

'Y noson orau': Parti priodas Sera

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Top 3: Dean Cain - The New Adventures of Superman, Stephen Gately o Boyzone a Joshua Jackson - Dawson's Creek.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dros Aber (Caernarfon). Atgofion o fynd yna yn blentyn efo Dad i gicio pêl, chwara' golff neu bowls! Wrth fy modd mynd i weld yr enwog pirate's grave yn Eglwys Llanfaglan. Yna fel teenager yn mynd i'r ffair a hongian o gwmpas y swings ar dêt! Ac fel oedolyn yn mynd rownd y foryd ar fy meic. Mae'r olygfa dros y Fenai ac o'r castell a'r elyrch yn anhygoel.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dyma'r llun cyntaf o'r tri ohonom, nôl ym mis Tachwedd. Mae'n bwysig i fi wrth gwrs gan mai dyma fy nheulu newydd. Ond hefyd gan bod o'n dangos rhywbeth positif yng nghanol Covid, bod popeth wedi troi allan yn ocê ar ôl genedigaeth anodd. A fydd o yn rhywbeth i ddangos i Anya pan yn hŷn - bod Mam a Dad 'di gorfod gwisgo masgiau yn ei llun cyntaf!

Ffynhonnell y llun, SERA
Disgrifiad o’r llun,

"Rhywbeth positif yng nghanol Covid"

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Boris Johnson. I fi allu ymddiswyddo a symud i ben arall y byd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i'n diodde o motion sickness yn ofnadwy ers talwm. Cofio chwydu dros fy hun, o flaen pawb, ar top bys ysgol ar drip i Alton Towers pan oeddwn tua 14. O flaen y boi o'n i'n ffansio hefyd. O'n i'n mortified! A gorfod gwisgo'r un dillad trwy dydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tua wsos yn ôl! Ma' genna'i fabi pum mis oed ac o'n i wedi bod yn effro bron i 24 awr yn methu cael hi i setlo. Hollol shattered!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Gyda Taid. Fy arwr. Er mwyn gofyn yr holl gwestiynau am ei fywyd yng Ngwlad Pwyl a'r rhyfel, na'i byth wybod amdanyn nhw. Ac iddo adnabod fi fel oedolyn. Dwi'n credu bydda' ni wedi cael gymaint o amser da. Dyn distaw, andros o ffeind. Byswn wedi caru iddo cael cwrdd â hogan bach fi.

Ffynhonnell y llun, SERA
Disgrifiad o’r llun,

Taid Sera: "Dyn distaw, andros o ffeind"

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wedi bod yn feichiog ac yna'n bronfwydo, dwi wedi sdopio yfed gwin ers sbel. Y broblem ydi dwi wedi swapio fo efo siocled! Felly dwi'n byta LOT gormod o siocled ar hyn o bryd. Cerdded i siop gornel bron bob nos am 'trîts'!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, empathetig, positif.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byta fy hoff fwyd trwy'r dydd ac yfed y gwinoedd mwyaf drud gyda fy hoff bobl, tra'n gwisgo rhywbeth hollol over the top.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Hoff ffilm - Almost Famous. Y soundtrack, y stori a'r actio. Ffilm llawn calon a charu cymeriad a steil ffasiwn Kate Hudson

Ffynhonnell y llun, SERA

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu pigo petha i fyny efo bodiau fy nhraed.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Scallops. Slow cooked lamb. Sticky toffee pudding.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dafydd Dabson.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw