Ateb y Galw: Yr actor a chyfarwyddwr Martin Thomas

  • Cyhoeddwyd
Martin ThomasFfynhonnell y llun, Paul Andrew

Yr actor a chyfarwyddwr Martin Thomas sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ceri Elen yr wythnos diwethaf.

Mae Martin yn gyfarwydd fel actor teledu a llwyfan, ond mae hefyd yn gweithio tu ôl i'r camera, ac yn cyfarwyddo Deian a Loli.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof gyntaf yw eistedd mewn sêt yng nghefn car Dad, yn edrych trwy'r ffenest triongl yn gwylio dyn yn gwisgo crys gwyn a trowsus du. Mi oedd o'n dal ci bach yn ei law tra oedd ci ni, sef y ci oedd ganddo ni tan on i'n tua pymtheg oed yn rhedeg o gwmpas ei draed yn cyfarth yn glên.

Wrth sgwrsio am y peth efo Mam oedd hi'n dweud ei fod o'n amhosibl i mi gofio prynu ein ci newydd gan fy mod ond yn chwe mis oed ar y pryd. Ond, gan blismon prynwyd y ci a mewn Datsun (ffenest cefn triongl) o'n i'n eistedd ar y pryd. Ci ni oedd y ci bach yn ei law ac nid yr un oedd yn rhedeg o gwmpas, oedd yr un ffunud.

A mi oedd hi efo ni am just dros 15 mlynedd! Gwallgo'! Gin i blanc wedyn tan dwi tua 5 oed...

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Elisabeth Shue o Katate Kid, Adventures in Babysitting a Back to the Future.

Elisabeth ShueFfynhonnell y llun, Ron Galella
Disgrifiad o’r llun,

Serenodd Elisabeth Shue mewn nifer o ffilmiau yn yr 1980au

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae gen i ambell stori ond yr un byraf i ddisgrifio yw'r adeg nesh i wisgo wig blond cyrliog, thong aur a welis aur mewn sioe i Theatr Bara Caws. Not a good look!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Nesh i grio fatha babi wrth i ni ffarwelio â'n ci teulu ni, Nel, just cyn Dolig. Ddoth y milfeddyg i'r tŷ a oedd o'n amlwg fod Nel yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd ond eto 'naeth hi ddim styrbio o gwbl, jest edrych i fyny yn glên arnai i a Sian, fy ngwraig. A wedyn mynd yn llipa. Torcalon.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Os dwi ddim yn gweithio neu'n chware efo fy mhlant, Elsa a Seth, dwi'n caru bod mor ddiog â phosib.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n caru llwythi o lefydd yng Nghymru ond ma' siŵr mai ardal Dinorwig a'r chwarel a'r goedwig lawr tuag at Llanberis faswn i'n dewis gan fy mod wedi treulio gymaint o amser yno fel plentyn yn chwarae ac yn gael anturiaethau di-ri.

Dinorwig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chwarel Dinorwig wedi gadael ei hôl ar dirwedd yr ardal

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhriodas, fy stag yn Prague a fy mhenblwydd yn 30 draw yn Amsterdam.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Byr, moel a hapus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Un o fy hoff filmiau ydi ET - y ffilm gynta' i mi weld yn y pictiwrs erioed. Dwi'n cofio edrych allan trwy ffenest y car ar y ffordd adref yn ysu i gael gweld alien bach. Ga'th y ffilm ddylanwad mawr arna i gan ysgogi cariad tuag at sci-fi a ffilmiau yn gyffredinol.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Tutankamun - just er mwyn gweld be oedd yr holl ffys!

TutankamunFfynhonnell y llun, Print Collector
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tutankamun yn frenin Eifftaidd yn y 1300au CC. Cafodd ei fedd ei ddarganfod yn 1922

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu gwneud twrw dŵr yn diferu wrth fflicio fy moch. Defnyddiol iawn i haslo athrawon tra mewn neuadd llawn o ddisgyblion yn gwneud arholiadau!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ffeindio awyren bach o faes awyr Dinas Dinlle a'i hedfan o gwmpas Cymru - efo fy nheulu wrth gwrs!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ar y funud dwi'n licio Angel Flying Too Close to the Ground gan Beth Rowley. Mae'n drist though!

line

O archif Ateb y Galw:

line

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Be', dwi'n gorfod dewis un?!

Wel mi faswn i'n licio scallops fel cwrs cyntaf (er fy gen i alergedd! Gesh i rai lawr yn Padstow unwaith - y pethau gora' dwi erioed wedi blasu!) Stêc medium rare fel prif gwrs. Etonmess i bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Neil Armstrong neu unrhywun sydd wedi bod i'r gofod rili. Mae'r ffaith fod pobl wedi sefyll ar y lleuad yn eitha' mindblowing ac felly mi faswn i'n licio rhywfaint o'r wefr yna!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sian Beca

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw