Apêl heddlu wrth i ffordd ailagor wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi ailagor yn dilyn gwrthdrawiad arweiniodd at orfod cludo pedwar o bobl i'r ysbyty am driniaeth.
Cafodd tri dyn a menyw eu cludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd wedi'r gwrthdrawiad ar yr A465 ychydig cyn 11:00 ddydd Iau.
Dywed Heddlu De Cymru bod dau gerbyd yn y gwrthdrawiad - Ford Fiesta las a Renault Clio gwyn.
Bu'n rhaid cau rhan o'r ffordd - rhwng cyffyrdd Llwydcoed a Hirwaun - i'r ddau gyfeiriad wrth i'r heddlu ymchwilio i'r achos ond fe ail-agorodd tua 00:30 fore Gwener.
Mae'r llu wedi diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bo'r ffordd ar gau.
Maen nhw hefyd eisiau clywed gan "unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r ffordd y cafodd y naill gar neu'r llall ei yrru cyn y gwrthdrawiad" i gysylltu â nhw os nad ydyn nhw wedi gwneud eisoes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021