Pryderon Cymry wrth i'r sefyllfa yn Israel waethygu

  • Cyhoeddwyd
GazaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn Gaza wedi saethu o'r awyr dros y penwythnos

Wrth i'r sefyllfa yn y Dwyrain Canol waethygu dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford a'r Canon Aled Edwards, Ysgrifennydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru bod y cyfan yn destun pryder dwfn a'u bod yn meddwl am berthnasau a ffrindiau sydd ynghanol y trais.

Mae Israel a gwrthryfelwyr Palesteinaidd wedi bod yn ymosod ar ei gilydd ar lain Gaza am dros wythnos bellach gyda degau wedi'u lladd.

Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru a lleisiau anghydffurfiol hefyd wedi galw am heddwch.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal yng Nghymru dros y penwythnos

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab, mae eglwysi Annibynnol yn Sir Gâr wedi mynegi arswyd bod y trais presennol yn Israel a Gaza yn deillio o wrthdaro dros safle yn Jerwsalem sy'n sanctaidd i Gristnogion, Iddewon a Mwslimiaid.

Maen nhw'n pwysleisio mai dim ond ymrwymiad rhyngwladol i drefn ddwy-wladwriaeth all ddod â heddwch hir-dymor i'r Dwyrain Canol.

Ffynhonnell y llun, Sarah Idan
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw hi ddim yn ddiogel i fynd allan ar y strydoedd ar hyn o bryd," medd Sarah Idan sy'n wreiddiol o Gaerdydd

Mae Sarah Idan, sy'n gyn ddisgybl o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, yn Iddewes sy'n byw yn Jerwsalem.

Dywedodd bod "yr ymladd bellach mewn ardaloedd lle mae Israeliaid a Phalestiniaid wedi bod yn byw yn hapus gyda'i gilydd yn y gorffennol.

"Mae Israeliaid a llawer o Balestiniaid wedi brifo ac mae e jyst yn hollol ofnadwy - dwi'n rhy bryderus i fynd allan ar y stryd nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emyr yn un o'r rhai fu yn protestio yng Nghaerdydd dros y penwythnos

Ar y strydoedd yng Nghymru dros y penwythnos roedd na brotestiadau gan gefnogwyr Palesteina yng Nghaerdydd, Wrecsam ac amryw dre arall.

Dywed Emyr, un o'r rhai oedd yn y brotest, yng Nghaerdydd: "Rwy' yma achos bo fi'n credu ei fod yn bwysig fod pobl yn dangos cydsafiad a chefnogaeth i Balesteina oherwydd yr holl anghyfiawnderau sy'n digwydd.

"Rwy'n credu dylen ni ddangos cefnogaeth i unrhyw un sy'n dioddef ar draws y byd - mae e mor syml â hynny."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Israeliaid yn clirio wedi ymosodiad ar synagog ddydd Sul

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio ar hyd y blynyddoedd yn Gaza.

Dywed eu cyfarwyddwr yng Nghymru Mari McNeill: "Dros y dyddiau diwethaf ry'n wedi bod mewn cysylltiad cyson - mae hi mor drasig clywed beth sy'n digwydd i bobl gyffredin.

"Mae yna bryderon gwirioneddol am brinder bwyd a thanwydd - rhywbeth sydd mor bwysig i gadw systemau iechyd i fynd.

"Mae'n amhosibl i ni ddirnad be sy'n digwydd. Mae'n bwysig condemnio'r trais a gweddïo am heddwch."

Pynciau cysylltiedig