Gwrthdrawiad angheuol rhwng car a bws ysgol yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
RTC

Mae gyrrwr wedi marw a cafodd dau o ddisgyblion ysgol eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol yng ngogledd Sir Benfro.

Dywed yr heddlu i yrrwr y car farw yn safle'r gwrthdrawiad yn ardal Efailwen.

Roedd y disgyblion yn teithio i Ysgol y Preseli, a dywedodd yr ysgol bod cyfanswm o 17 wedi eu hanafu.

Roedden nhw'n teithio ar fws rhif 636 rhwng Dinbych-y-pysgod a Chrymych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A478 rhwng Llanglydwen a Llandysilio tua 08:35.

Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans iddynt anfon pedwar ambiwlans, un cerbyd ymateb cyflym ynghyd ag uned o Ambiwlans Awyr Cymru i'r safle.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal am y tro.

'Cwmwl dros yr ardal'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Huw George bod yr ysgol a'r cyngor wedi ymateb yn "rhyfeddol o gyflym"

Dywedodd y Cynghorydd Huw George bod 'na "gwmwl dros yr ardal" yn dilyn y digwyddiad, oherwydd y farwolaeth, a'r ffaith mai pobl ifanc oedd wedi eu hanafu hefyd.

Fe wnaeth ganmol ymateb "rhyfeddol o gyflym" yr ysgol a'r cyngor wrth drefnu cymorth i'r disgyblion gafodd eu heffeithio.

"Mae 'na 'stafell ddosbarth wedi ei rhoi o'r neilltu i'r bobl ifanc, mae 'na gwnselwyr yn mynd i fynd i'r ysgol a hefyd mae'r ysgol yn mynd i gysylltu gyda'r rhieni oherwydd nhw fydd yn gweld y bobl ifanc adre' yn ystod yr wythnosau nesa' 'ma, a mae'r ysgol yn mynd i 'neud yn siŵr bod nhw'n gw'bod be' i 'whilo mas am."

Mae Cyngor Sir Penfro wedi sefydlu llinell ffôn arbennig 01437 775400 ar gyfer rhieni neu warchodwyr i gysylltu â nhw.