Galw am newid rheolau cyfergyd i wahanol rywiau
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr wedi galw am weithredu ar y cysylltiad posib rhwng cyfergyd a dementia mewn rygbi merched.
Yn ôl yr Athro Willie Stewart, sy'n niwro-batholegydd, byddai canllawiau penodol i ddynion a menywod yn lleihau'r achosion o anafiadau i'r ymennydd.
Daw wedi i raglen BBC Wales Investigates ganfod bod diffyg addysg yn golygu bod chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion weithiau yn ansicr o'r canllawiau diogelwch.
Dywedodd corff rheoli'r gamp, World Rugby ei fod "wedi ymrwymo" i wneud rhagor o ymchwil ar y pwnc.
Mae'r Athro Stewart, sy'n gweithio yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Glasgow, yn arwain tîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n astudio anafiadau trawmatig ar yr ymennydd.
"Mae ymchwil gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar yn dangos, ble fo'r rheolau yr un peth i'r gwahanol rywiau - fel sydd ar hyn o bryd ym mhêl-droed a rygbi - mae menywod tua dwywaith yn fwy tebygol o ddioddef cyfergyd na dynion, am resymau sydd ddim wir yn glir," meddai.
Mae'r Athro Stewart ac eraill - gan gynnwys cyn-chwaraewyr - yn galw am gael llai o sesiynau hyfforddi ble mae cyswllt rhwng chwaraewyr oherwydd y cysylltiad rhwng cyfergyd a dementia.
Dywedodd bod y canllawiau presennol - yr un rheolau ar gyfer gwahanol rywiau - bron yn llwyr seiliedig ar ymchwil mewn dynion yn unig.
"Nid ceisio atal pobl rhag bod eisiau cymryd rhan ydyn ni, ond dydyn ni ddim eisiau colli chwaraewyr am nad ydyn nhw'n gallu cymryd rhan oherwydd anaf i'w hymennydd - neu ddarganfod mewn 40 mlynedd bod llwyth o gyn-chwaraewyr â dementia neu broblemau eraill," meddai.
Mae cyn-chwaraewr Cymru a Wasps, Nic Evans yn cytuno bod angen rheolau gwahanol.
Ges i gryn dipyn o ddamweiniau pen trwy'r tymor - wnes i gael mwy nag un - a es i 'nôl i chwarae yn syth bin really," meddai.
"O'n i byth yn gwybod pa mor ddifrifol oedd e. O'n i'n gwybod roedd rhaid i ni stopio - falle cymryd gêm mas ond doedden ni ddim yn gwybod all hwn effeithio arna i dros amser.
"Dwi'n credu bod angen arian i gael ei daflu ato fe a dweud y gwir. Mae angen i ni wybod trwy ffeindio mas sut mae menywod yn cael eu heffeithio yn wahanol.
"Ydyn ni'n cael concussion am fwy o amser? Sut mae e'n digwydd yn y gêm? Mae angen gwybod yr atebion i ni allu newid pethau i gynorthwyo menywod i chwarae yn fwy saff."
'Ymchwil ar rygbi merched'
Dywedodd World Rugby mewn datganiad: "Tra nad ydy ymchwil yn awgrymu bod gwahaniaethau sylweddol o ran cyfergyd, rydym yn cydnabod y gwahaniaethau posib yn ymateb dynion a menywod i gyfergyd.
"Yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ymchwil ar rygbi merched."
Ychwanegodd rheolwr meddygol Undeb Rygbi Cymru, Prav Mathema eu bod yn cymryd rhan mewn rhaglen fyd-eang i gofnodi anafiadau mewn rygbi merched.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd29 Awst 2018