Neges Ewyllys Da yr Urdd 'angen ei lledaenu dros y byd'
- Cyhoeddwyd
O dan y teitl "Mae hyn yn fwy na hashtag", cydraddoldeb i ferched yw thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2021, dolen allanol.
Cyhoeddwyd y neges gyntaf 99 o flynyddoedd yn ôl, ac eleni, dros 20 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi ei llunio.
Cafodd y neges ei chreu gyda chefnogaeth y bardd a'r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai Cydraddoldeb i Ferched o dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.
"Mae'n neges mor bwysig", meddai'r fyfyrwraig Alpha Evans.
"Mae angen iddi gael ei lledaenu ar draws y byd. Mae'n neges amserol iawn yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac mae'n fraint ein bod ni fel myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohoni eleni."
Mae Katie Phillips, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe hefyd yn teimlo balchder.
"Ma' llawer o bethau wedi bod ar social media o fenywod yn dweud "Digon yw digon" ac yn ymladd yn ôl yn erbyn y stereoteips, ac yn gofyn i ddynion ymladd gyda ni."
Wrth ymateb i'r neges eleni, mae mudiad yr Urdd eisoes wedi llunio cyfres o gynlluniau.
Y cyntaf yw delio â thlodi mislif drwy ddarparu cynnyrch hylendid am ddim yng Ngwersylloedd yr Urdd, pob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol y mudiad i'r dyfodol.
Byddai hyn yn sicrhau fod cynnyrch mislif ar gael i dros 32,000 o ferched bob blwyddyn.
Mae'r mudiad hefyd yn bwriadu cynnig gwersylloedd yr Urdd yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd fel lleoliadau i grwpiau o ferched bregus gael ymlacio.
Bydd hefyd yn ceisio sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob un o fyrddau canolog yr Urdd, meddai, a sicrhau cefnogaeth barhaus i ferched ym maes hyfforddiant ac arweinyddiaeth, yn enwedig yn y byd chwaraeon.
"Mae'r Urdd yn arwain drwy esiampl ac yn sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob lefel, gan brofi fod y Neges Heddwch yn gymaint fwy na hashtag eleni," meddai Siân Lewis, Prif Weithredwraig Urdd Gobaith Cymru.
"Mae cydraddoldeb a hawliau merched yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol sy'n darparu i bawb.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe am ei chefnogaeth i'r neges.
"Mae wedi bod yn fraint i gydweithio â'r brifysgol o gofio ei hymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb.
"Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr i lunio'r neges ac i wneud gwahaniaeth yn heintus - rwy'n hyderus y bydd y neges yn taro tant ar draws y byd ac y bydd gweithredu yn ei sgil."
I Daniel Hall-Jones, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r neges eleni yn berthnasol i bawb.
"Os na allwn ni gyd gyd-weithredu 'da'n gilydd, fel dynion a menywod, ni ffaelu byw yn gyfartal, ni ffaelu byw mewn cymuned sy'n inclusive a ni ffaelu symud 'mlaen a chael gwell cymdeithas."
Y llynedd cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ei rhannu i 40 o wledydd y byd gan gyrraedd 37 miliwn o bobl.
Mae'r neges eleni wedi'i chyfieithu i dros 60 o ieithoedd hyd yn hyn - y mwyaf erioed yn ei hanes, ac eleni hefyd mae hi wedi ei recordio ar ffurf can gan y gantores Eadyth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021