Gohirio penderfyniad ar gael rhagor o Aelodau Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones, Llywydd y Cynulliad

Mae Llywydd y Cynulliad wedi gohirio'r penderfyniad ar gael mwy o aelodau nes 2021.

Cafodd cynigion eu gwneud i ychwanegu 20 neu 30 o ACau i'r 60 sydd 'na ar hyn o bryd cyn yr etholiadau nesaf o fewn dwy flynedd.

Ond yn ddiweddar, dywedodd Llafur na fydden nhw'n cefnogi'r cynllun na newidiadau i'r ffordd mae ACau yn cael eu hethol cyn cyflwyno'r syniad mewn maniffesto i bleidleiswyr.

O ganlyniad, mae'r Llywydd wedi cadarnhau na fydd hi'n bosib newid y gyfraith cyn yr etholiadau.

Fodd bynnag, dywedodd ei bod "yn hyderus bod yr achos o blaid cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad wedi cael ei wneud".

Mae hi'n nodi'r camau nesaf i ddiwygio'r Cynulliad mewn llythyr at ACau.

Er iddi beidio enwi Llafur, dywedodd y blaid yn ei chynhadledd Gymreig fis Ebrill na ddylai deddf i newid maint y Cynulliad a'r system etholiadol ddigwydd "heb fandad cyhoeddus drwy ymrwymiad maniffesto".

Llwyddodd hyn i ddileu unrhyw obeithion o weld newid cyn 2021.

Mae'r Cynulliad yn y broses o newid ei henw a gostwng yr oed pleidleisio i 16.