Cynlluniau ynni 'Amazon Cymru' yn peri pryder

  • Cyhoeddwyd
Gwastadeddau Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd unigryw, wedi'i hadfer o'r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid

Mae ardal sydd wedi'i disgrifio fel coedwig law Amazon Cymru mewn perygl o gael ei sathru gan ddatblygiadau ynni, medd ymgyrchwyr.

Yn ôl Ffrindiau Gwastadeddau Gwent dylai'r ardal gael ei gwarchod oherwydd ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt prin.

Daw hyn wrth i weinidogion Llywodraeth Cymru ystyried prun ai i ganiatáu "hwb ynni adnewyddadwy" ar dir sydd wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth.

Mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r cynllun - allai gynhyrchu digon o drydan glan ar gyfer 40,000 o gartrefi - yn helpu adfer natur.

'Cyfaddawdu natur'

Yn ymestyn o ffiniau dwyreiniol Caerdydd i bontydd Hafren, mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd unigryw, wedi'i hadfer o'r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.

Ymysg y nodweddion pennaf mae 900 milltir o ffosydd draenio hynafol - sy'n gartref i gannoedd o rywogaethau sydd dan fygythiad.

Bu'r ardal yn y penawdau yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel rhan o'r ddadl ynglŷn ag adeiladu ffordd osgoi'r M4 - cynlluniau a gafodd eu gwrthod maes o law gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhannol oherwydd y "pwysau sylweddol iawn" a roddodd ar bryderon amgylcheddol.

Nawr wedi i ganlyniad yr etholiad roi stop unwaith eto ar fygythiad y draffordd, mae ymgyrchwyr lleol yn gweld y cynnydd yn nifer y ceisiadau am gynlluniau ynni fel rheng flaen newydd wrth geisio gwarchod y gwastadeddau.

Fe allai hynny brofi'n frwydr anos i'w hennill, gyda Chymru'n anelu i gynhyrchu 70% o'i anghenion trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine Linstrum ei bod yn "frawychus" gweld graddfa'r datblygiadau sydd dan ystyriaeth

Tra'n "amlwg o blaid ynni gwyrdd", dywedodd Catherine Linstrum - cyd-gadeirydd Ffrindiau Gwastadeddau Gwent ei bod hi'n allweddol nad yw cynlluniau'n cael eu lleoli ar dir anaddas.

"Gallwn ni ddim taclo'r argyfwng hinsawdd drwy gyfaddawdu natur," meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n "wallgof" ac yn "frawychus" gweld graddfa'r datblygiadau sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yn lleol.

Mae adran newid hinsawdd newydd yn Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifol am ynni a chynllunio.

Un o benderfyniadau cynta'r gweinidogion fydd prun ai i gymeradwyo'r hyn fyddai'n datblygu i fod yn fferm solar fwya' Cymru - ar 155 hectar o dir rhwng pentrefi St Bride's a Peterstone, sydd hefyd yn safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol.

Byddai'r cynlluniau yn cynnwys 250,000 o baneli solar, 160 uned batri, gwifrau tanddaearol, hwb cysylltiad grid ac isadeiledd arall cysylltiedig am gyfnod o 40 blynedd.

Cafodd adroddiad gan yr arolygiaeth gynllunio ei anfon at Lywodraeth Cymru ddiwedd Mawrth, ac mae gan weinidogion 12 wythnos i gyhoeddi eu penderfyniad.

Pryder am 'barc ynni anferth'

Dywedodd Dr Diana Callaghan, cyd-gadeirydd arall Ffrindiau Gwastadeddau Gwent, bod 'na "ofn gwirioneddol" y gallai'r penderfyniad osod cynsail fyddai'n golygu bod yr ardal yn datblygu'n "barc ynni anferth".

"Mae Gwastadeddau Gwent yn fflat ac yn denu lot o olau'r haul gan ein bod ni ar foryd, a ry'n ni'n gwybod bod 'na fwy o geisiadau am ffermydd solar yn yr arfaeth ar hyn o bryd - datblygiad mawr arall ar y gwastadeddau dwyreiniol ac un sydd eisoes wedi'i gymeradwyo yn Llanwern," meddai.

"Os eith yr un yma yn ei flaen byddai'n gorchuddio 10% o'r tir yn ardal gwastadeddau Gwynllŵg. Allwn ni ddim fforddio colli mwy o'r lle naturiol hollbwysig yma."

Tra bod mesurau lliniaru ar gyfer sgil-effeithiau amgylcheddol wedi'u haddo gan y datblygwyr, mae'r ymgyrchwyr yn honni nad oes modd gwarantu y byddai'r rhain yn gweithio a bod y risg o ddifrodi "ecosystem hynod fregus" yn rhy fawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Diana Callaghan bod 'na "ofn gwirioneddol" y gallai'r penderfyniad osod cynsail

Dywedodd Mike Webb o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwynt Gwent ei bod hi'n "anodd credu graddfa'r prosiect" mewn ardal sydd wedi'i disgrifio fel "Amazon Cymru".

"Mae'n dorcalonnus meddwl y byddai tirlun mor unigryw yn cael ei orchuddio i'r gorwel a chwarter miliwn o baneli metal, gwydr a phlastig," meddai.

"Does neb wedi trio adeiladu fferm solar more fawr ar wlyptir bregus, cymhleth o'r blaen - dyma'r prosiect cynta' o'i fath yng Nghymru a Phrydain, a does neb yn siŵr be' fydd yr effaith.

"Mae safleoedd o ddiddordeb gwyddonol eithriadol ond yn gorchuddio 12% o dirlun Cymru - mae 'na gannoedd ar filoedd o hectarau o dir fyddai'n llawer mwy addas ar gyfer prosiect fel hyn."

'Trawsnewid ynni gwyrdd Cymru'

Dywedodd Peter Grubb, pennaeth cynllunio Savills, sy'n cynrychioli'r datblygwyr - Wentlooge Farmers' Solar Scheme Limited, fod y prosiect yn "symbolaidd o drawsnewid ynni gwyrdd Cymru".

Dewiswyd y safle oherwydd ei "raddfa, topograffeg wastad, graddio amaethyddol isel, effaith 'bownsio' ar orymbelydredd solar o ganlyniad i'w leoliad ar yr arfordir", ac agosrwydd at gysylltiadau grid presennol," meddai.

Dywedodd y byddai'r cynllun yn cynnig gwell rheolaeth amgylcheddol o gynefinoedd perthi a ffosydd, tra'n darparu caeau blodau gwyllt newydd, plannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn prin ac arwynebedd o 22.1 hectar yn benodol ar gyfer cefnogi'r gornchwiglen i fridio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr yn mynnu y bydd y cynllun yn helpu adfer natur

"Mae'r safle o fewn rhan bwysig o Wastadeddau Gwent - ond mae wedi'i esgeuluso ac mae nodweddion arbennig dynodiad y safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol wedi profi dirywiad dychrynllyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Byddai newid y ffordd y mae'r tir yn cael ei reoli o dan y cynllun hwn yn helpu'r ardal i wella drwy amrywiaeth o fentrau.

"Bydd y cynigion hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu'r wlad i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol i gynhyrchu 70% o'i defnydd trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

"Rhaid datblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy i gyrraedd y targed hwn ac yn fwy cyffredinol i liniaru effaith newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Wyn Jones bod "cydbwysedd anodd iawn" o ran cynlluniau ynni adnewyddawdwy

Dywedodd Rhys Wyn Jones, pennaeth Renewable UK Cymru ei fod yn "gydbwysedd anodd iawn" wrth ystyried ceisiadau o'r math hwn ond ei bod hi'n "bwysig cofio bod y bar mewn gwirionedd yn uchel iawn, iawn" i ddatblygwyr.

"Mater iddyn nhw yw cyrraedd safon uchel iawn, nid yn unig o ran lliniaru effeithiau (ar yr amgylchedd) ond cynnig mantais net i fioamrywiaeth hefyd os ydynt am i'w cynlluniau gael eu cymeradwyo," meddai.

O ystyried y galw cynyddol anochel am gynlluniau ynni gwyrdd yn y dyfodol dywedodd fod "cwestiynau mawr" i'w gofyn ynghylch a oedd gan Gymru "ddigon o adnoddau i ddyfarnu'r rhain i gyd ar y cyflymder y byddai angen i ni ei wneud, yn enwedig o ystyried technolegau newydd a'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso'r rheiny".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni all gweinidogion Cymru wneud sylwadau ar geisiadau byw sydd ger eu bron ar hyn o bryd i'w hystyried."