Swyddi ar y fainc flaen i ASau newydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Luke FletcherFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Luke Fletcher, 25 oed, yw llefarydd newydd Plaid Cymru ar yr economi

Gyda dros hanner yr 13 Aelod Senedd a gafodd eu hethol ddechrau'r mis dros Blaid Cymru yn ASau newydd, maen nhw wedi cael swyddi mainc flaen gan yr arweinydd Adam Price.

Maen nhw'n cynnwys Luke Fletcher, AS rhanbarth Gorllewin De Cymru, sydd wedi ei benodi yn llefarydd yr economi a Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) - y llefarydd newydd ar amaeth a materion gwledig.

AS arall Gorllewin De Cymru, Sioned Williams fydd y llefarydd ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Heledd Fychan, AS Canol De Cymru, fydd yn arwain ar ddiwylliant, chwaraeon a materion rhyngwladol.

Mewn penodiadau eraill bydd Rhys ab Owen (Canol De Cymru) yn gyfrifol am y cyfansoddiad a chyfiawnder, Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) ar dai a chynllunio a Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) fydd y llefarydd ar gymunedau a phobl hŷn.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Heledd Fychan fydd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, chwaraeon a materion rhyngwladol

Bydd Sian Gwenllian yn parhau i fod yn llefarydd ar addysg a'r iaith Gymraeg, a hi hefyd fydd yn gyfrifol am ddisgyblaeth o fewn y blaid fel prif chwip.

Llyr Gruffydd sydd â phortffolio cyllid a llywodraeth leol, Rhun ap Iorwerth yw'r llefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol a Delyth Jewell ar newid hinsawdd, ynni a thrafnidiaeth.

Cafodd Elin Jones ei hailethol fel Llywydd y Senedd yr wythnos ddiwethaf.

'Deinamig newydd a phositif'

Dywedodd yr arweinydd Adam Price bod Cymru nawr yn mynd i mewn i "gyfnod hollbwysig trawsnewid allan o'r pandemig".

"Bydd gweithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru nawr yn diffinio dyfodol ein cenedl am y genhedlaeth nesaf," meddai.

"Dyna pam rwy'n benderfynol y bydd tîm Plaid Cymru yn y Senedd yn craffu ar bob cyhoeddiad a darn o ddeddfwriaeth gyda'r manylder priodol.

"Gyda chyfuniad o aelodau newydd a rhai wedi'u hailethol, bydd grŵp Plaid Cymru yn dod â deinameg newydd a phositif i weithredoedd y Senedd.

"Lle mae cytundeb bydd Plaid Cymru wastad yn gweithio gydag eraill er budd ein cenedl, ond os fydd diffyg brys fe fyddwn yn dal y llywodraeth y gyfrif a mynnu gwell i Gymru."