Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2021

  • Cyhoeddwyd
Tir na n-OgFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch mewn sefyllfaoedd heriol ond gwahanol iawn sydd wedi cipio'r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021.

Casia Wiliam sy'n fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai gyda #helynt gan Rebecca Roberts yn dod i'r brig yn y categori uwchradd.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy ennill Gwobr Tir na n-Og.

Mae'r awduron yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â cherdd gomisiwn gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu'r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe'u trefnir yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a'u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

'Delio â bwlio'

Stori gyfoes yw Sw Sara Mai am ferch tua naw oed o'r enw Sara Mai sy'n byw yn sw ei rhieni ac sy'n ei chael hi'n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi wedi gwirioni!' medd Casia Wiliam (a'i mab Deri)

Wrth drafod y llyfr, dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James: "Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras wahanol.

Mae'n gyfrol sydd yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer yr oedran ac yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu yn well y Gymru amrywiol a chynhwysol o'n cwmpas."

Dywedodd Casia Wiliam, sy'n byw yng Nghaernarfon: "Dwi wedi gwirioni! Rydw i hefyd yn hynod o falch o Sara Mai - hi ydi'r enillydd go iawn. Mae mor bwysig bod Cymry bach sydd yn ddu neu'n hil-gymysg yn gweld eu hunain yn brif gymeriadau mewn llyfrau Cymraeg, felly mae'n golygu cymaint i mi fod y llyfr wedi derbyn y gydnabyddiaeth arbennig yma."

Realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref

Nofel ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn a enillodd y categori uwchradd. Mae #helynt gan Rebecca Roberts yn adrodd stori merch yn ei harddegau a'r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli'r bws i'r ysgol un bore - digwyddiad sydd yn newid cwrs ei bywyd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Mae wir yn anrhydedd,' medd Rebecca Roberts

Dywedodd T Hywel James: "Dyma stori sydd yn cydio o'r dechrau i'r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru cyfoes.

Mae portread sensitif a chynnil iawn o brif gymeriad gydag anabledd wedi ei gynnwys yn grefftus iawn yn y stori - ond merch ddewr, nid ei hanabledd, yw ffocws y dweud. Fel panel credwn fod y nofel hon yn esiampl ardderchog, 'clasurol' hyd yn oed, o genre llenyddiaeth i'r arddegau - ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny."

Dywedodd Rebecca Roberts, sy'n byw ym Mhrestatyn: "Mae #helynt yn stori am garu dy hun, am fod yn wahanol ac yn falch o'r ffaith - neges dwi'n meddwl mae angen i bobl ifanc ei chlywed yn aml.

"Mae Rachel mor agos at fy nghalon, felly roeddwn i wrth fy modd o glywed bod y beirniaid yn teimlo'r un fath â minnau. Mae wir yn anrhydedd ac yn uchafbwynt anhygoel. Mawr yw fy niolch i bawb a helpodd i ddwyn #helynt i'r byd."

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause: "Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu'r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig llwyfan i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr sy'n creu deunydd unigryw yn Gymraeg.

"Diolch o galon i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy'n creu cynnwys rhagorol i'n hysbrydoli, ein haddysgu a'n diddanu fel darllenwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol."

Pynciau cysylltiedig