Y Lolfa ac Atebol yn prynu adran gyhoeddi Gwasg Gomer

  • Cyhoeddwyd
Gwasg Gomer

Mae'r cwmnïau cyhoeddi Y Lolfa ac Atebol wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu adran gyhoeddi Gwasg Gomer.

Fe wnaeth y wasg gyhoeddi ym mis Medi 2019 y byddan nhw'n cau eu hadran gyhoeddi a pharhau gyda'u hadran argraffu yn unig.

Ond o ddechrau Ebrill bydd Y Lolfa ac Atebol yn cymryd gofal o ôl-restr Gwasg Gomer, sy'n dyddio 'nôl i 1946.

Bydd Gomer yn parhau i ganolbwyntio ar eu hadran argraffu yn unig, sy'n cyflogi 56 o weithwyr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pencadlys Gomer yn Llandysul yn parhau gyda'r adran argraffu

Dywedodd Garmon Gruffudd o'r Lolfa: "Mae'n fraint ac yn gyfrifoldeb aruthrol i ni gynnig cartref i restr o lyfrau mor eang, mor gyfoethog ac mor bwysig yn ddiwylliannol.

"Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu'r rhestr a sicrhau y bydd y wledd o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gomer ar gael i'w mwynhau gan y cenedlaethau i ddod."

Ychwanegodd Owain Saunders-Jones o Atebol eu bod yn "falch ein bod wedi gallu cydweithio â Gomer a'r Lolfa i sicrhau parhad i drysorfa gyfoethog cyhoeddiadau Gomer i'r dyfodol, sy'n gymaint rhan o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol fel Cymry".

Pynciau cysylltiedig