Mayhill: Saith heddwas wedi eu hanafu yn anhrefn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n dweud y byddan nhw'n ymateb yn "gadarn" yn achos unigolion oedd yn rhan o'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel "anhrefn ar raddfa fawr" yn Abertawe nos Iau.
Mae lluniau a fideos brawychus ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl ifanc yn rhoi ceir ar dân a'u gwthio i lawr allt yn ardal Mayhill y ddinas.
Dywedodd y llu mewn datganiad yn gynnar ddydd Gwener bod pawb oedd yn rhan o'r cythrwfl wedi gwasgaru a'u bod yn canolbwyntio ar ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.
Fe wnaeth yr heddlu ddweud bod saith o blismyn wedi cael eu hanafu yn y cythrwfl. Roedden nhw i gyd gyda man anafiadau o ganlyniadau i bethau'n cael eu taflu atyn nhw.
"Roedd digwyddiad neithiwr yn hollol annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth y gallwn ni i adnabod y rhai oedd yn gyfrifol," meddai'r Uwch-Arolygydd Tim Morgan.
"Hoffwn roi sicrwydd i gymuned Mayhill y bydd y bobl a gymerodd ran yn wynebu gweithredu cadarn. Mae ymholiadau eisoes wedi dechrau i adnabod yr holl bobl dan sylw."
Mae yna apêl i'r cyhoedd am wybodaeth a lluniau, ond mae beirniadaeth wedi bod ar ddiffyg ymateb yr heddlu. Dywed rhai trigolion fod yna adegau pan roedd pobl dreisgar o flaen eu cartrefi ond na chyrhaeddodd neb i roi cymorth.
Ar ei gyfrif Twitter fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford gondemnio'r digwyddiadau yn Abertawe.
Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart hefyd wedi beirniadu y sefyllfa, gan ddweud bod hi yn "noson anodd i'r heddlu i ddelio gyda y fath ymddygiad di-hid".
Y gred yw bod y digwyddiad wedi dechrau yn dilyn gwylnos er cof am ddyn 19 oed lleol, Ethan Powell fu farw'n annisgwyl ddydd Mercher.
Yn ôl tudalen i'w goffa ar Facebook cafodd ei drefnu i gofio amdano "a meddwl am ba mor wirioneddol rhyfeddol yr oedd".
Roedd bwriad i ryddhau balwnau er cof amdano yn gynnar nos Iau ond dwysáu gwnaeth y sefyllfa wrth i rywrai danio tân gwyllt cyn i'r cythrwfl ddechrau o ddifri.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal tua 19:30, a'r gwasanaeth ambiwlans am 20:55.
Cafodd ambiwlans Tîm Ymateb Ardaloedd Peryglus, cerbyd ymateb cyflym ac ambiwlans frys eu danfon, ond ni fu'n rhaid cludo unrhyw un i'r ysbyty.
Y gred yw bod golygfeydd nos Iau yn destun gofid mawr i deulu Ethan Powell wedi'r hyn oedd wedi ei fwriadu i fod yn ddathliad o'i fywyd.
Mae yna le i gredu hefyd bod digwyddiad coffa pellach wedi ei drefnu ar gyfer y penwythnos.
'Wedi dychryn'
Yn ôl un o'r trigolion lleol, nad oedd am gael ei enwi, roedd y ffrwgwd wedi dechrau gyda thân gwyllt.
"Roedd yr heddlu wedi cyrraedd a dod allan o'r fan er mwyn gweld beth oedd yn digwydd," meddai.
"Ond fe gafon nhw eu taro gan gerrig ac fe wnaethon nhw ddychwelyd i'r fan a gadael.
"Roedden ni yn sownd yn y tŷ gyda dau blentyn ifanc. Roedden nhw wedi dychryn felly roedd rhaid i fi fynd â nhw i gefn y tŷ."
Dywed Adam Romain, sy'n byw yn Heol Waun-wen, i'r bobl ifanc ei dargedu pan aeth i'r stryd i achub ei feic modur rhag niwed ac i geisio diffodd tân mewn car gafodd ei wthio i gefn ei gar ei hun.
"Naethon nhw ddechrau taflu brics ata'i, ac at fy nhŷ, ac roedd fy mabanod yn y tŷ," meddai wrth BBC Cymru.
"Naethon nhw dorri fy ffenestr a'r drws ffrynt - doedd dim ofn arnyn nhw o gwbl."
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru, Sioned Williams bod y sefyllfa wedi bod "yn hollol frawychus" i drigolion lleol.
"Mae'n bwysig deall pam bod y rhai sydd wedi achosi y fath anhrefn wedi gwneud hyn," meddai. "Dyw ymddygiad fel hyn ddim yn dod mas o ddim byd.
"Yn amlwg mae'n hollol, hollol annerbyniol a dwi'n ei gondemnio yn llwyr, ond mae angen i ni falle bwyso am well cydweithio rhwng swyddogion heddlu a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
"Mae'n hanfodol fod pobl yn teimlo yn ddiogel yn eu cartrefi, ac felly bod yna ymdrechion i rannu barn ar y ddwy ochr ynglŷn â phroblemau a thensiynau mewn cymunedau cyn bod pethau yn ffrwydro fel hyn."
'Noson anodd i'r heddlu'
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart nos Iau bod swyddogion y cyngor yn cydweithio gyda'r heddlu mewn ymateb i'r cythrwfl.
"Fe fyddwn yn cefnogi ymdrechion yr heddlu i ddal unrhyw un sydd wedi bod trefnu neu wedi bod â rhan yn yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.
Dywedodd y cyngor bod eu swyddogion yn Heol Waun-Wen ers ben bore Gwener "i arwain y gwaith clirio", trwsio drysau a ffenestri fel bod "eiddo pobl yn ddiogel", ac adfer y ffordd wedi i'r cerbydau gael eu llosgi.
Ychwanegodd Mr Stewart nad yw gweithredoedd "y lleiafrif" yn adlewyrchu'r ardal, a bod y cyngor "yn gwneud popeth posib... i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto".
Roedd dros ddwsin o gerbydau heddlu ac injans tân tu allan i orsaf heddlu Townhill am gyfnod dros nos rhag ofn bod yna ragor o drais.
Mae tudalen ariannu torfol wedi cael ei sefydlu ar-lein er mwyn helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan yr hyn sy'n cael ei alw'n "derfysg" yn Mayhill.
Yn ystod dydd Gwener, mae blociau concrit wedi cael eu gosod ar draws y ffordd er mwyn atal cerbydau rhag cael eu gwthio i lawr yr allt.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael fod y golygfeydd yn "hollol warthus ac annerbyniol".
"Yn aml iawn, ac rydyn ni wedi gweld hyn ledled Cymru a Lloegr, mae pethau fel hyn yn datblygu o unman, wedi eu trefnu ar gyfryngau cymdeithasol.
"Yn amlwg fe ddatblygodd pethau yn gyflym iawn ac mewn modd cwbl annerbyniol, neithiwr, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall beth sydd wedi digwydd i sicrhau nad yw'n digwydd eto."
Fe wrthododd awgrymiadau nad oedd ymateb yr heddlu'n ddigonol: "Roedd yr heddlu'n gorfod delio â rhywfaint o ymddygiad anghyffredin ac eithafol iawn neithiwr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021