Dynes wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth Cei Connah

  • Cyhoeddwyd
Police vehicles
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau o'r bobl a gafodd eu harestio wedi'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad

Mae dynes 46 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn yn Sir y Fflint.

Bu farw Dean Michael Bennett, 31, wedi digwyddiad mewn eiddo ar Ffordd y Doc yng Nghei Connah oddeutu 17:00 ddydd Sadwrn.

Mae'r ddynes wedi cael ei chadw'n y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth.

Mae dyn 35 oed a merch 16 oed a gafodd eu harestio wedi marwolaeth Mr Bennett wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Dywed Ditectif Gwnstabl Chris Bell sy'n ymchwilio i'r digwyddiad bod yr heddlu yn meddwl am deulu a ffrindiau Dean yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Pynciau cysylltiedig