Cân Euro 2020 yn cyfleu hapusrwydd Euro 2016
- Cyhoeddwyd
Y band o'r Rhyl, The Alarm, sydd wedi recordio cân swyddogol tîm pêl-droed Cymru yn yr Euros eleni, sef The Red Wall of Cymru ac Yws Gwynedd sy'n gyfrifol am anthem Radio Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.
Ond fel gydag Euro 2016 mae artistiaid eraill wedi eu tanio gan y twrnament i sgrifennu cân hefyd gan gynnwys Geraint Løvgreen, dolen allanol a hefyd band ska o Gaerdydd, y Skapa Collective, sydd wedi penderfynu rhyddhau fersiwn Cymraeg a Saesneg o'u cân - Hapusrwydd/Happiness - gyda'r gobaith o annog y tîm cenedlaethol a chodi calonnau'r cefnogwyr.
Cafodd y prif leisydd, Stephen Bick y syniad am recordio cân bêl-droed tra'i fod allan yn Ffrainc yn cefnogi Cymru yn ystod Euro 2016, meddai.
"Ysgrifennodd y gân ei hun, i fod yn onest. Es i i'r Euros yn 2016, felly roedd gen i lot o'r delweddau a'r syniadau yn fy mhen yn barod. Pan o'n i mas 'na, soniodd fy ffrind i Sid y byddai'n syniad da i ni wneud cân pêl-droed, a meddyliais i y byddai Happiness yn gân wych.
"Roedden ni am fod yn mynd i Euro 2020 gyda'n meibion - pump boi mewn campyrfan, o'dd e am fod gymaint o hwyl! Ac am yr ail flwyddyn yn olynol roedden ni wedi bwcio popeth, yn barod i fynd... mae wedi bod mor rhwystredig.
"Dwi eisiau teimlo fel o'n i yn Bordeaux - dyna holl bwynt y gân, rili."
Recordio yn ystod locdown
Cafodd y rhan fwyaf o'r gerddoriaeth ei recordio yn ystod deng munud sbâr ar ddiwedd sesiwn recordio fis Mawrth diwethaf. Ond wythnos yn ddiweddarach, daeth y cyfnod clo, ac mae Stephen a'i gyd-aelodau wedi gorfod cwblhau'r gân dros y flwyddyn ddiwethaf mewn sesiynau recordio byr bob hyn a hyn, pan oedd cyfyngiadau yn caniatáu.
"Dyna sut wnaethon ni'r fideo hefyd," meddai. "O'dden ni'n Aberteifi yn ffilmio y diwrnod cynta' oedden ni'n cael teithio dros y Pasg, yn edrych mas am gymylau tywyll...
"Yn y diwedd, 'naethon ni orffen y fideo cyn gorffen y gân, achos roedd rhaid i mi ailysgrifennu'r geiriau pan oedd chwaraewyr yn mynd i mewn a mas o'r tîm!
"Roedd e dipyn o hunllef, i ddweud y gwir - mae e wir wedi bod yn lafur cariad. Ond ni wrth ein boddau sut mae e gyd wedi troi mas."
Mae'r band ska 11 aelod o Gaerdydd wedi bod gyda'i gilydd ers rhyw ddwy flynedd bellach. Er mai yn Saesneg mae'r band yn perfformio fel arfer, penderfynon nhw wneud dwy fersiwn o'r gân - yn Gymraeg a Saesneg - rhywbeth mae Stephen yn falch iawn ohono.
"Roedd hi'n bwysig iawn i'w wneud e yn y ddwy iaith, gan fod y Gymraeg yn cael ei gwthio i'r neilltu yn aml. Dwi ddim yn siaradwr Cymraeg, ond mae fy mhlant ac mae fy ngwraig, Julie, yn athrawes Gymraeg. Hi helpodd fi i gyfieithu'r gân.
"Gofynnais i Gareth Potter ganu'r fersiwn Cymraeg - dwi 'di 'nabod e ers blynyddoedd - ond gymerodd hi rhyw dri mis cyn i ni allu ei recordio fe!"
Brwydro yn erbyn hiliaeth
Mae'r gân yn cefnogi elusen Show Racism the Red Card; mae rhai o aelodau'r band yn gwisgo crysau t gyda'r slogan yn y fideo. Roedd hyn yn bwysig i Stephen ac i weddill y band, meddai.
"Syniad gwreiddiol y fideo oedd i ddangos pobl o ddydd i ddydd, o gefndiroedd gwahanol, yn cael hwyl a dawnsio rownd. A'r pwynt 'dyn ni eisiau ei wneud yw mai'r bobl hiliol sy'n methu mas - rydyn ni mas 'ma yn cael hwyl, ond dy'ch chi ddim!
"Ry'n ni eisiau cael y neges bod hiliaeth yn beth gwael mas 'na. Bydden i wrth fy modd yn clywed y gân yn cael ei chanu ar y terasau, gyda'r neges yn nghefn meddyliau pobl. Bydde fe'n bwerus iawn."
Hefyd o ddiddordeb: