Y Cymro, tîm pêl-droed Ajax a Bob Marley
- Cyhoeddwyd
Mae'r gân Three Little Birds gan Bob Marley wedi dod yn anthem i'r tîm pêl-droed byd-enwog Ajax - ond wyddoch chi fod gan y clwb le i ddiolch i Gymro am hyn?
Roedd cyn sylwebydd clwb pêl-droed Dinas Caerdydd, Ali Yassine, ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru i egluro ei rôl yn y stori sydd yn cysylltu cân o Jamaica, â'r Iseldiroedd a Chymru...
Yr Adar Gleision a'r Three Little Birds
Llais Ali Yassine arferai seinio ar draws y stadiwm yn ystod gemau Caerdydd, a hynny am 14 blynedd.
Mae'n cofio'n iawn y gêm gyfeillgar hwnnw rhwng Caerdydd a'r clwb o Amsterdam, Ajax yn 2008, yn ystod tymor olaf y tîm cartref ym Mharc Ninian, cyn iddo gael ei ddymchwel.
"Naeth rhyw 11,000 o bobl droi fyny ar gyfer y gêm gyfeillgar 'ma, a pawb yn gyffrous oherwydd Caerdydd yn erbyn Ajax. Rheolwr Ajax ar y pryd oedd Marco van Basten, yno fel coach oedd Dennis Bergkamp, a lot o chwaraewyr adnabyddus.
"Hefyd oedd chydig bach o ffans Ajax wedi troi fyny, rhyw 300-500 ohonyn nhw."
Roedd Ali yn chwarae mewn band reggae ar y pryd ac wedi dod ag ychydig o recordiau reggae gydag o i'r gêm, yn y gobaith y câi gyfle i chwarae ambell i drac dros yr uchelseinydd.
Manteisiodd ar y cyfle i chwarae un drwy gael jôc gyda ffans Caerdydd am yr ymwelwyr, wrth roi cyfarwyddiadau i'r toiled, eglurodd:
"Ddywedais i 'mae'n rhaid i chi adael y stondin, troi i'r chwith a mynd heibio'r Iseldirwyr ar y chwith'. A wedyn chwaraeais i gân Pass the Dutchie on the left hand side - ac o'dd pawb yn chwerthin.
"Ond o'dd ffans Ajax yn dawnsio! Doedden nhw ddim wedi cael y jôc, ond o'n i'n meddwl 'maen nhw yn licio reggae - waw!'."
Doedd 'na ddim llawer yn nodedig am y gêm gyfeillgar honno - 0-0 oedd y sgôr. Ond mae'r gêm yn aros yn y cof i Ali am beth ddigwyddodd ar ôl y chwiban olaf.
"Diwedd y gêm, ges i alwad ffôn gan yr heddlu oedd yn y stadiwm i ddweud bod nhw'n cadw ffans Ajax i mewn, rhag ofn fod 'na drafferth tu allan - ac er mwyn gwneud yn siŵr bod nhw ddim yn clywed dim byd, i chwarae cerddoriaeth.
"O'n i'n meddwl 'grêt!' Es i mewn i'r bag, dod allan â'r holl reggae o'n i 'di dod efo fi ar gyfer y noson, a'r gân gynta chwaraeais i oedd Bob Marley, Three Little Birds - a dyna oedd yr ymateb, oedd e'n anhygoel - o'dd pawb yn canu.
"Oedden nhw yna am rhyw hanner awr arall, ac ar ôl i fi orffen yr holl ganeuon, ddes i allan o'r bocs ac oedd pawb yn dathlu gyda fi!"
Anthem answyddogol Ajax
Erbyn heddiw, mae Three Little Birds wedi cael ei mabwysiadu fel anthem gan glwb Ajax, gyda'r ffans yn gweiddi canu'r gân yn ystod gemau, â'r chwaraewyr yn cyffroi wrth chwarae i gyfeiliant alaw a geiriau Bob Marley.
Ond sut ddaeth y gân mor bwysig i'r clwb, yn dilyn un gêm gymharol ddi-nod yng Nghaerdydd?
Eglurodd Ali: "Yn ôl pob sôn, roedd y bobl oedd ym Mharc Ninian y noson honno, y ffans Ajax, gyda dylanwad mawr ar y clwb. O'dden nhw'n gallu mynd at y clwb a dylanwadu ar beth oedd yn cael ei chwarae ar yr uchelseinydd, o ran cerddoriaeth. Mae diwylliant gwahanol gyda nhw yn Ewrop - mae'r ffans gyda mwy o ddweud."
Mae perthynas y clwb â'r gân yn parhau yn un gref. Mae mab Bob Marley ei hun, Ky-Mani Marley, wedi bod i weld gêm Ajax, ac wedi perfformio'r gân o flaen degau o filoedd o ffans yn y Johan Cruyff Arena yn Amsterdam.
Ac yn ddiweddar mae dyluniad crys newydd posib Ajax wedi ymddangos yn y wasg, dolen allanol, sydd yn cynnwys y lliwiau coch, melyn a gwyrdd - lliwiau Jamaica - ar grys du, yn hytrach na lliwiau traddodiadol y tîm, coch a gwyn.
Ag Ajax yn dîm mor llwyddiannus, a'r gân i'w chlywed yn aml felly mewn rowndiau terfynol pencampwriaethau pwysig, mae Ali'n cael ei atgoffa'n aml am ei rôl bach ym mherthynas y gân a'r tîm, ond nid yw'n teimlo fod hynny'n rhywbeth i ganolbwyntio arno, meddai.
"I fi, o'n i jest yn gweld rhywbeth rili neis i'w wneud. Cawson ni amser ffantastig yn ein stadiwm ni, ac o'n i'n weld o fel braint bod nhw wedi mynd ymlaen a dewis y gân yna.
"Bob blwyddyn, mae Ajax yn ymddangos yn y Champions League a bob blwyddyn, dwi'n cael galwad o bob cwr o'r byd yn gofyn am gyfweliad ynglŷn â'r gân.
"Rhaid cofio, nid fi sgwennodd y gân - y cwbl 'nes i oedd chwarae fe!"
Hefyd o ddiddordeb: