'Un ym mhob tri wedi'u heffeithio gan argyfwng tai'

  • Cyhoeddwyd
Tamprwydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr ymchwil mae un o bob chwech yn byw mewn cartrefi gyda lleithder, llwydni neu broblemau cyddwysedd

Mae un o bob tri o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai sydd un ai yn anniogel neu'n anfforddiadwy, yn ôl Shelter Cymru.

Dywedodd yr elusen bod ei ffigyrau'n awgrymu bod dros filiwn o bobl yma wedi cael eu heffeithio.

Mae wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "brawychus" gan ychwanegu eu bod yn dangos pam y dylai cartrefi o safon fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £2bn mewn tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Senedd.

Mae'r hyn mae'r elusen yn ei alw'n "anniogel neu anfforddiadwy" yn cynnwys "popeth o deuluoedd sy'n cael eu gorfodi i ddewis rhwng talu rhent neu brynu bwyd, i rentwyr sy'n byw mewn cartrefi sy'n llawn tamprwydd, llwydni a diffyg atgyweirio".

Fe wnaeth Shelter gomisiynu YouGov i wneud arolwg o 668 o bobl ledled Cymru, a dywedodd 228 o'r rheiny eu bod yn profi'r argyfwng tai.

Disgrifiad,

Mae Levi Croft yn credu bod angen gwneud mwy i hysbysu pobl am y gefnogaeth sydd ar gael

Ymysg canfyddiadau'r arolwg oedd bod:

  • Un o bob chwech wedi gorfod torri 'nôl ar nwyddau hanfodol fel bwyd neu wres er mwyn medru fforddio taliadau rhent neu forgais;

  • Un o bob chwech yn dweud na allan nhw gadw eu cartref yn gynnes yn y gaeaf;

  • Bron i un mewn 10 yn byw mewn tai sydd ddim yn strwythurol ddiogel neu sydd â pheryglon fel nam trydanol neu beryglon tân;

  • Un o bob chwech yn byw mewn cartrefi gyda lleithder, llwydni neu broblemau cyddwysedd;

  • Un mewn 10 o bobl yn dweud bod eu cartref presennol yn niweidiol i'w hiechyd meddwl neu iechyd meddwl eu teuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Merlin Hayward
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Merlin Hayward a'i bartner eu taflu allan o'u fflat ychydig ddyddiau cyn genedigaeth eu mab, Joshua

Cafodd Merlin Hayward o Gasnewydd brofiad erchyll gyda landlord oedd ddim yn fodlon atgyweirio ei fflat.

"Pan symudon ni i'r fflat yn ystod y pandemig, wynebon ni o leiaf 54 o broblemau naill ai o ran cynnal a chadw neu atgyweiriadau oedd angen eu gwneud yn y cyfnod hwnnw," meddai.

"Roedd y sŵn o'r fflat uwchben yn annioddefol ar adegau pan symudon ni fewn gyntaf. Roedd y carped yn eithriadol o frwnt, ond roedd y landlord yn gwrthod ei lanhau.

"Roedd dŵr yn gollwng drwy'r nenfwd yn y lolfa, roedd y ffwrn wedi torri, roedd twll llygoden yn yr ystafell ymolchi, ac mae'r rhestr yn parhau."

Gorfodi i adael

I goroni'r cyfan fe wnaeth ei landlord orfodi Merlin a'i bartner i adael, ychydig ddyddiau'n unig cyn iddi roi genedigaeth i'w mab, Joshua.

"Ddeuddydd ar ôl ymateb i gais gan y landlord am restr gyflawn o'r holl broblemau oedd yn y fflat, dywedwyd wrthym am adael.

"Dyma'n syml yr achos mwyaf amlwg o droi allan dialgar dwi'n credu ei bod yn bosib dod ar ei draws, ac roeddem yn sâl o feddwl am y pwysau ychwanegol ar fy mhartner a'r plentyn yn y groth."

Ffynhonnell y llun, Shelter Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth Power bod yr ymchwil yn "dangos bod angen gweithredu brys"

Dywedodd Ruth Power, prif swyddog gweithredol Shelter Cymru, bod yr ymchwil yn "dangos yr heriau a wynebodd gymaint o bobl yng Nghymru yn ystod y pandemig".

"Ond yn anffodus dydy'r heriau hyn ddim yn newydd - maent yn broblemau hir dymor sydd angen gweithredu beiddgar ac uchelgeisiol i'w datrys," meddai.

"Cartrefi da yw sylfaen ein bywydau ni i gyd. Maent yn caniatáu i bobl fynd i'r gwaith bob dydd heb boeni ynghylch beth fyddan nhw'n dod gartref iddo.

"Maent yn caniatáu i blant ffynnu yn yr ysgol. Maent yn rhoi i ni y cysur, diogelwch a sicrwydd sy'n hanfodol i fywydau iach, hapus a chynhyrchiol.

"Mae ein hymchwil yn dangos graddfa a difrifoldeb yr argyfwng tai yng Nghymru, ac yn dangos bod angen gweithredu brys."

'Dros 20,000 o dai fforddiadwy'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn nhymor diwethaf y Senedd fe wnaethon ni fuddsoddi £2bn mewn tai fforddiadwy - sy'n record - gan ein helpu i basio ein targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn y cyfnod hwnnw.

Ychwanegodd bod deddfau sy'n gorchymyn pob landlord i sicrhau bod eu llety yn addas.

"Rydyn ni nawr yn edrych i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, carbon isel, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan."

Pynciau cysylltiedig