Cais statws byd-eang i ardal y chwareli'n 'codi balchder'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cais i gael Safle Treftadaeth Byd i ardal chwarelyddol y gogledd-orllewin wedi "codi balchder" o fewn y cymunedau, yn ôl aelod cabinet y cyngor sir.
Yn ystod haf 2021 bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd.
Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd â nifer o bartneriaid eraill, wedi bod yn datblygu'r cais ers peth amser.
Y gobaith ydy y bydd dynodi'r ardal - fydd yn yr un dosbarth â'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn yr Aifft a theml Ankor Watt yn Cambodia - yn arwain at adfywiad economaidd a chymdeithasol yn y gogledd orllewin.
Mae yna dri safle treftadaeth y byd eisoes wedi eu dynodi yng Nghymru - Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.
Y gobaith rŵan ydy y bydd ardal y llechi yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog, yn cael ei ddynodi hefyd.
Dywedodd Gareth Thomas, aelod cabinet Datblygu'r Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd: "Mae bob un wlad yn y byd efo llechi o Wynedd arno fo'n rwla a ma'n bwysig bod ni'n dathlu hynna.
"Y benefits mwya' [o gael y statws] fydda codi hyder pobl sy'n byw yn y cymunedau llechi, ma' cael yr enwebiad yma'n rhoi hyder a balchder i bobl yn eu treftadaeth a'u hiaith a'u diwydiant a ma' hynny'n gorfod bod yn beth da.
"Mae tua 10 mlynedd o waith wedi mynd mewn i hyn. Mae 'na waith caled i gael yr enwebiad yma lle mae o.
"Y prif reswm 'da ni'n datblygu hwn ydy codi balchder y cymuneda' a cael bobl leol i ailgysylltu efo'u treftadaeth a'u cyn-deidiau a hwnna 'di'r peth pwysig i mi.
"Mae'n amlwg y byddan ni'n siomedig iawn os na gawn ni'r enwebiad ond ma'r siwrna ei hun wedi bod yn bwysig a ma'r balchder sydd wedi codi yn y cymuneda' llechi wedi bod yn werth 'neud beth bynnag."
Yn y cyfamser, bu Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn cynnal taith Lle-CHI yr wythnos hon.
Bwriad y daith gerdded yw dathlu archaeoleg ddiwydiannol ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru, a'u gwaddol diwylliannol sylweddol, yn llenyddol, yn gerddorol ac yn ysbrydol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018