Traeth tywod i helpu i atal llifogydd yn Llandudno?

  • Cyhoeddwyd
Llandudno

Fe allai traeth o dywod ddychwelyd i lannau gogleddol tref Llandudno ar ôl i bwyllgor craffu arbennig benderfynu cyflwyno cynnig gwerth £23.9m i wella amddiffynfeydd y dref.

Yn ôl adroddiad i Gyngor Conwy mae model o lifogydd posib yn y blynyddoedd nesaf yn awgrymu fod 'na "risg sylweddol" y gallai fusnesau a thai fod dan ddŵr oni bai fod 'na weithredu gan yr awdurdodau.

Daw penderfyniad y cyngor yn dilyn dadlau a thrafodaeth am un ai gadw'r cerrig mân sydd eisoes ar draeth y dref neu eu gwaredu ac adfer tywod yno gyda morgloddiau pren.

Yn ôl y Cynghorydd Trystan Lewis, sydd hefyd yn berchen ar siop yn y dref, mae'r penderfyniad yn "cael ei groesawu".

Mewn cyfarfod rhithiol nos Fawrth fe gafodd pwyllgor o gynghorwyr y cyngor y cyfle i bwyso a mesur yr adroddiad a'r opsiynau posib i amddiffyn y dref rhag sgil effeithiau newid hinsawdd.

Roedd yna ddau brif gynnig:

  1. Cynllun £6.7m i wella a chynnal y traeth o gerrig mân a chodi lefel y wal;

  2. Cynllun £23.9m i gael gwared â'r cerrig mân a chodi traeth o dywod a morgloddiau pren hir - cynllun sydd â "sgil effeithiau economaidd da", medd yr adroddiad.

Ers dechrau'r drafodaeth am wella'r amddiffynfeydd yn Llandudno yn 2014, mae 'na ddadlau wedi bod dros fodolaeth y cerrig mân a gafodd eu cyflwyno yn 2000.

Mae protestio wedi bod dros eu cadw gyda nifer o bobl leol yn dweud eu bod yn difetha'r olygfa a'u bod yn gwneud mwynhau'r traeth yn anodd ac yn anghyffyrddus.

'Lot o bres - ond rhaid ymateb'

Gyda phwyllgor craffu Cyngor Conwy bellach wedi penderfynu cyflwyno cais i adfer y traeth o dywod, mae 'na le i gredu y bydd 'na hwb economaidd.

"Mi oedd y cerrig yn niweidio delwedd y promenad yma," meddai'r Cynghorydd Trystan Lewis.

"Dwi'n croesawu eu bod nhw'n meddwl am harddwch y prom ac yn meddwl am dwristiaeth - yn wyneb y pandemig mi fydd 'na fwy o bobl yn aros adre ac yn dod i'r traethau yma ac mae'n hanfodol diogelu'r traeth a'r tywod.

"Yn sicr mae'n lot o bres ond mae'n rhaid diogelu twristiaeth a busnesau.

"Yn y 20au a 30au mi oedd 'na lifogydd yn y dre - mae'n rhaid ymateb i'r ffaith fod newid hinsawdd yn real a bod bygythiad."

Yn ôl y Cynghorydd Lewis mae'r cynllun yn debyg i'r gwaith o godi lefel y tywod ym Mae Colwyn sydd hefyd wedi profi'n "llwyddiant".

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus i wella'r amddiffynfeydd ei gynnal yn 2019 gyda dros 800 o bobl leol yn lleisio eu barn gyda'r mwyafrif yn ffafrio cael traeth o dywod.

Fel rhan o'r cynllun, fe fydd gwelliannau hefyd i amddiffynfeydd arfordirol y traeth yng ngorllewin y dref gan gynnwys cryfhau'r waliau concrit yno.

Os fydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fe ddaw'r pres o gronfa gwerth £150m a gafodd ei greu yn 2015 i wella amddiffynfeydd arfordirol Cymru yn sgil newid hinsawdd.

Bydd penderfyniad y pwyllgor craffu rŵan yn mynd ger bron Cabinet Cyngor Conwy cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.

Bydd baich ariannol unrhyw fuddsoddiad yn cael ei rannu rhwng yr awdurdodau gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 85% o'r gost a Chyngor Conwy yn talu 15% - oddeutu £3m am y cynllun sydd wedi ei ffafrio.

Pynciau cysylltiedig