Wynebau newydd yn nhîm y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi cyhoeddi ei dîm newydd o lefarwyr. Yn eu plith mae nifer o wynebau newydd wrth i rai Ceidwadwyr gynrychioli etholaethau a rhanbarthau yn y Senedd am y tro cyntaf.
Peter Fox fydd yn siarad ar faterion ariannol. Bydd Natasha Ashgar yn llefaru ar faterion cysylltiedig â thrafnidiaeth a thechnoleg a Sam Rowlands ar lywodraeth leol.
Roedd Laura Jones, Russell George a Mark Isherwood yn aelodau eisoes ac fe fyddan nhw'n siarad ar addysg, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol.
Dywed yr arweinydd bod y tîm newydd yn llawn syniadau.
Er bod Mr Fox yn newydd yn y Senedd mae e'n wleidydd profiadol ac wedi arwain Cyngor Sir Fynwy am 13 mlynedd.
Fe ddaeth yn ymgeisydd i'r Ceidwadwyr wedi i'r cyn AS Nick Ramsay gael ei ddad-ddethol gan ei blaid yn lleol.
Ms Ashgar, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yw'r ddynes gyntaf o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gael ei hethol i Senedd Cymru ac mae'n ferch i'r diweddar AS Mohammad Asghar.
Bu farw Mr Ashgar y llynedd yn 74 oed a fe oedd yr aelod cyntaf o gefndir ethnig i'w ethol i'r Cynulliad, fel y'i galwyd ar y pryd, yn 2007.
Mae Sam Rowlands, sydd yn cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru, wedi bod yn arweinydd Cyngor Conwy.
Mae Paul Davies AS, sy'n cynrychioli Preseli Penfro, wedi ei ddewis yn llefarydd ar yr economi. Roedd e'n arweinydd y blaid cyn iddo roi'r gorau iddi wedi iddo gael ei weld yn yfed yn y Senedd gyda gwleidyddion eraill yn ystod cyfyngiadau Covid.
Mae AS Gorllewin Clwyd Darren Millar, a oedd hefyd wedi'i weld yn yfed, eisoes wedi dychwelyd yn brif chwip y blaid ac fe fydd e hefyd yn llefarydd ar faterion cyfansoddiadol.
Aelod Aberconwy, Janet Finch-Saunders, fydd yn siarad ar newid hinsawdd.
Y llefarwyr eraill yw:
Cydraddoldebau (a dirprwy chwip) - Altaf Hussein, Gorllewin De Cymru
Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon - Tom Gifford, Gorllewin De Cymru
Iechyd meddwl, lles a chanolbarth Cymru - James Evans, Brycheiniog a Maesyfed
Materion gwledig a'r iaith Gymraeg - Samuel Kurtz, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Partneriaeth gymdeithasol - Joel James, Canol De Cymru
Gwasanaethau Cymdeithasol- Gareth Davies, Dyffryn Clwyd
Fe wnaeth y Ceidwadwyr ennill 16 sedd allan o 60 ar 6 Mai a nhw yw'r ail blaid fwyaf ym Mae Caerdydd - mae gan y Blaid Lafur 30 sedd a Phlaid Cymru 13.
Dywedodd Andrew RT Davies: "Wedi ein canlyniad etholiadol gorau erioed dyma dîm newydd llawn syniadau sy'n barod i daclo'r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu yn sgil y pandemig."
Ychwanegodd Mr Davies y bydd ei dîm yn "herio cyfrifoldebau Llafur, yn cyflwyno polisïau amgen gan sicrhau bod y Ceidwadwyr yn wrthblaid gref a fydd yn creu llywodraeth well".
Cafodd llefarwyr Plaid Cymru eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf ac mae gweinidogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ar eu gwaith wedi iddynt gael eu penodi ar 13 Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021