Arestio dau wedi cyrch arfog yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Presenoldeb heddlu nos Iau yn Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng nghanol Aberystwyth yn gynnar nos Iau

Mae'r heddlu'n dweud y cafodd dau o bobl eu harestio wedi i blismyn arfog gynnal cyrch ar fflat yng nghanol Aberystwyth ddydd Iau.

Roedd yna apêl i'r cyhoedd gadw draw wrth i Heddlu Dyfed-Powys ddelio gyda "digwyddiad" arweiniodd at gau rhan o Heol Alexandra a Ffordd y Môr.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau am 17:30 bod dyn yn eistedd mewn ffenest gyda gwn yn ei ddwylo.

Fe wnaethon nhw ymateb gyda swyddogion arfog, wnaeth arestio dau ddyn.

Dywedodd y llu ddydd Gwener bod gwn sy'n saethu peledi bychan ac ychydig o ganabis wedi cael eu canfod yn y fflat.

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o Ffordd y Môr ar gau

Mae un o'r dynion wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad tra bo'r ail wedi cael ei ryddhau heb gyhuddiad.

Dywedodd y llu eu bod yn gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd tra'u bod yn delio gyda'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig