Argymell gwrthod cais cynllunio dadleuol tŷ Bae Ceibwr

  • Cyhoeddwyd
Pencastell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i ddymchwel Pen-y-castell a chodi tŷ newydd yn ei le

Mae swyddogion cynllunio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi argymell gwrthod cais cynllunio dadleuol yng Ngheibwr ger Aberteifi.

Mae Bae Ceibwr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe'i ystyrir yn un o ardaloedd hyfrytaf arfordir gogledd Sir Benfro.

Roedd Cyngor Cymuned Trewyddel wedi gwrthwynebu'n chwyrn y cais gwreiddiol i ddymchwel Pen Castell ac i godi tŷ newydd yn ei le.

Mae'r cyngor hefyd yn gwrthwynebu cais diwygiedig, sydd wedi ei gyflwyno i swyddogion cynllunio'r Parc Cenedlaethol a'i wrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Yr eiddo ac ardal Bae Ceibwr

Yn ei adroddiad cynllunio, mae'r swyddogion yn dweud "nad yw'r adeilad yn mynd i harddu'r tirlun naturiol, ac mae'n debygol o achosi tarfu ar yr olygfa.

"Mae'r datblygiad mewn lleoliad amlwg a sensitif. Y farn yw nad yw'r dyluniad yn addas, a does yna ddim nodweddion traddodiadol.

"Mi fydd yn niweidio nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol."

Fe fydd cais Pen Castell yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Rheoli Datblygu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 9 Mehefin.