Meddygon o leiafrifoedd yn teimlo 'nad oes croeso'
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg blaenllaw yn dweud bod angen mwy o leisiau o leiafrifoedd ethnig i gael eu clywed yn y proffesiwn yng Nghymru.
Dywedodd Amol Pandit, cyd-gadeirydd fforwm BAME cymdeithas feddygol BMA Cymru, fod rhai meddygon o gefndiroedd BAME yn teimlo nad oes croeso iddyn nhw yn y GIG yng Nghymru.
Roedd yn teimlo nad oes "lle ffurfiol wrth y bwrdd trafod" i feddygon BAME drafod polisi gyda Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y llywodraeth eu bod am gael "perthynas weithio gynhyrchiol" gyda'r gymuned.
'Ychydig iawn o gydnabyddiaeth'
Mae tua 40% o holl feddygon y GIG yng Nghymru o gefndir du neu leiafrif ethnig medd y BMA.
Yn yr arolwg diweddaraf o'u haelodau yn 2020, dywedodd 55% o feddygon BAME bod parch i amrywiaeth a diwylliant i gynhwysiant yn y gweithle - roedd hynny'n cymharu gyda 75% o feddygon gwyn yn teimlo yr un peth.
Daeth y canfyddiadau dan gysgod y pandemig Covid, a ddangosodd bod nifer anghymesur o bobl o gymunedau BAME wedi eu heffeithio gan coronafeirws.
O'r 40 o feddygon sydd wedi marw gyda Covid-19 ar draws y DU, roedd y mwyafrif o gefndir lleiafrif ethnig.
"O ystyried ein bod yn rhan mor bwysig o'r gwasanaeth iechyd, ychydig iawn o gydnabyddiaeth a llai fyth o lais sydd gennym dros y blynyddoedd," medd Mr Pandit, sy'n ymgynghorydd wroleg yn Abertawe.
Un broblem benodol a gododd oedd ceisio cadw meddygon oedd wedi cael eu hannog i symud yma o dramor i barhau i weithio yng Nghymru.
"Mae eu cadw yn broblem oherwydd bod rhai yn teimlo nad oes croeso iddyn nhw - ac mae angen i hynny newid," meddai.
Fe wnaeth astudiaeth y BMA hefyd ganfod bod bron traean o fyfyrwyr meddygol BAME yn teimlo fod bwlio yn broblem, a'u bod yn adrodd am ddigwyddiadau o fwlio bedair gwaith yn fwy aml na'u cyfoedion gwyn.
Cafodd fforwm BAME BMA Cymru ei sefydlu y llynedd fel rhan o'r ymateb i'r symudiad BLM yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America.
'Gweithio gyda'n gilydd'
Dywedodd Mr Pandit ei fod yn lle y gall cydweithwyr yn y maes drafod pryderon yn ddiogel, a bod yn llais unedig i'r rhai y maen nhw'n cynrychioli.
Ond ychwanegodd ei fod am gael mwy o drafod gydag arweinwyr a swyddogion yn Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Pandit, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei chynllun cydraddoldeb hil wedi ei ddatblygu "gyda phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig ar draws Cymru, gan gynnwys pobl mewn ystod eang o swyddi yn y GIG yng Nghymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru hefyd fod swyddogion wedi cwrdd gyda fforwm BAME y BMA yn ddiweddar i drafod cydweithio i weithredu'r cynllun, ac wedi cwrdd gyda Mr Pandit "i drafod ei syniadau a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd".
"Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas weithio gynhyrchiol," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020