Heddlu'n ymchwilio ar ôl canfod dau gorff mewn tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i ddau o bobl gael eu canfod yn farw mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans toc cyn 11:00 yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi'u canfod yn farw ar y Stryd Fawr ym mhentref Cymmer.
"Mae ymchwiliadau'n mynd rhagddo i sefydlu'r amgylchiadau llawn," meddai'r llu mewn datganiad.
Dywedodd yr aelod o'r Senedd ar gyfer Rhondda, Buffy Williams bod y sefyllfa yn "drist ofnadwy".
"Rwy'n meddwl am deulu a ffrindiau'r rheiny sydd wedi colli eu bywydau," meddai.