Gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yng Ngwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A494 rhwng Llanuwchllyn a Rhydymain, ger Dolgellau, tua 15:15 ddydd Llun.
Bu farw'r gyrrwr beic modur yn safle'r gwrthdrawiad gyda Volkswagen Golf.
Cafodd teithiwr yn sedd flaen y car ei gludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Aintree yn Lerpwl gydag anafiadau difrifol.
Cafodd gyrrwr y car fân anafiadau.
Mae'r heddlu yn apelio am dystio i'r digwyddiad.
Bu'r ffordd ynghau am rai oriau.