'Angen bod mor ofalus cyn llacio pellach', medd meddyg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yfed tu allanFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mr Dr Eilir Hughes yn annog cyfarfod eraill y tu allan ar hyn o bryd

Mae meddyg o Ben Llŷn wedi annog pwyll cyn llacio mwy o gyfyngiadau, cyn i Lywodraeth Cymru gynnal eu hadolygiad diweddaraf o'r canllawiau Covid-19 ddiwedd yr wythnos.

Daw rhybudd Dr Eilir Hughes yn sgil rhybuddion y gallai'r DU fod yn wynebu trydedd don.

"Rhaid bod yn hynod o ofalus cyn llacio unrhyw gyfyngiadau ac y gallai llaesu dwylo yn ystod yr wythnosau nesaf fod yn gam gwag," meddai wrth i fwy o achosion o amrywiolyn India o'r haint gael eu cofnodi ar draws Prydain.

Fore Mawrth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y cabinet yn trafod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ddydd Iau ac yn penderfynu'n derfynol a fydd modd symud i rybudd un o ddydd Llun ymlaen.

Yn Lloegr mae Mehefin 21 wedi ei nodi fel y dyddiad y bydd pob cyfyngiad yn cael ei godi, ond mae gwyddonwyr wedi bod yn galw am oedi.

Ddydd Llun cafodd dros 3,000 o achosion newydd o'r haint eu cofnodi yn y DU am y chweched diwrnod yn olynol - mae 58 achos o amrywiolyn India yng Nghymru yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad llacio cyfyngiadau yn Lloegr ar 21 Mehefin, ond mae gwyddonwyr wedi galw am oedi

"Fy nghyngor i Mark Drakeford yw dilyn y data, nid y dyddiada'," medd Dr Eilir Hughes ar Dros Frecwast.

"'Da ni'n tynnu at ddiwedd y pandemig - 'da ni ddim eisiau boddi wrth ymyl y lan - felly gawn ni fod yn ofalus.

"Mae angen bod tu allan pan yn treulio amser gydag eraill, mae angen cadw pellter, gwisgo mwgwd a bod yn ofalus.

"Mae'r lefel R uwchben 1 yn Lloegr ac mae yna sôn am lacio pellach. Tra bod y gwerth yna uwchben un, ymledu llawer mwy 'neith y feirws a hynny mewn dull esbonyddol.

"Mae angen gofyn y cwestiwn a oes angen tynhau y rheolau mewn mannau lle mae'r haint yn lledaenu ar fyrder - yn sicr mi fuasai llacio 'chwaneg a llaesu dwylo yn ystod yr wythnosau nesaf yn gam gwag mawr."

Disgrifiad o’r llun,

"Fyddwn i ddim yn gwybod effaith ymwelwyr â Phen Llŷn dros y penwythnos am beth amser eto," medd Dr Hughes

Mae Dr Hughes yn llawn edmygedd o'r rhaglen frechu yng Nghymru ond dywedodd bod yna gwestiynau i'w holi am effeithiolrwydd y brechlynnau.

"'Da ni ar drothwy cyfnod arbrofol mewn ffordd - mae'r sefyllfa 'dan ni ynddo rŵan yn dra gwahanol i be oeddan ni ynddo ar ddechra'r pandemig yn y gwanwyn y llynedd," meddai.

"Mae'r ymdrechion i frechu yma yng Nghymru yn arbennig ond mae amrywiolyn Delta wedi dod ar ein traws.

"Mae'r brechlyn ond yn un ffactor o osgoi ymlediad - mae ond yn gweithio i fyny hyd at 80% i bobl - felly mae gynnoch chi wastad 20% lle nad yw'r brechlyn wedi bod yn ddigonol.

"Dyna'r cwestiwn mawr - faint o bobl fydd yn ddifrifol wael? Faint o bobl fydd yn dod ar ofyn y Gwasanaeth Iechyd yn sgil yr amrywiolyn newydd yma?"

"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â sut 'dan ni yn llacio i'r dyfodol - mae'n dir hollol newydd."

'Aros ychydig bach hwy'

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n hoffi gweld pwyll ar lacio'r cyfyngiadau a chael cwrdd tu mewn i gartrefi pobl, dywedodd: "Ddim eto tan bo' ni'n gwybod be' sy'n digwydd efo'r amrywiolyn newydd 'ma.

"Mae'r niferoedd yng Nghymru ar hyn o bryd yn isel ond fe wnaeth poblogaeth Pen Llŷn ddyblu os nad treblu dros y penwythnos.

"'Da chi ddim yn mynd i weld effaith cymysgu poblogaethau tan ryw bythefnos neu dair wythnos - mater o aros ychydig bach hwy yw e nes bod ni'n gwybod lle ydan ni."