'Anodd atal amrywiolyn India rhag dod i Gymru o Loegr'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef y bydd hi'n "anodd iawn" atal amrywiolyn India o Covid-19 rhag lledaenu o Loegr i Gymru.
Dywedodd Eluned Morgan nad yw'r amrywiolyn yn lledaenu o fewn y gymuned yng Nghymru hyd yma, ac nad oes unrhyw un wedi bod angen eu trin mewn ysbyty ar ôl ei ddal.
Ond cyfaddefodd ei bod yn disgwyl y bydd hynny'n newid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod llai na 100 achos o amrywiolyn India wedi eu canfod yng Nghymru hyd yma, gan gynnwys clwstwr yn Sir Conwy.
'Rhaid i ni fod yn barod'
Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales dywedodd y Farwnes Morgan nad yw'r llywodraeth wedi gweld yr amrywiolyn yn lledaenu o fewn y gymuned, a bod mwyafrif yr achosion wedi dod o ganlyniad i deithio dramor.
"Rydyn ni'n debygol o weld hynny'n newid yn yr wythnosau i ddod ac rwy'n meddwl ei bod hi am fod yn anodd iawn i ni ei atal rhag dod ar draws o Loegr felly mae'n rhaid i ni fod yn barod am hyn," meddai.
"Ond does yr un achos o amrywiolyn India wedi arwain at fod angen mynd i'r ysbyty yng Nghymru hyd yma."
Bydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o'r rheolau coronafeiws yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, a dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd y llywodraeth yn cymryd golwg fanwl ar y data sydd ar gael yr wythnos hon er mwyn asesu pa lacio pellach allai ddigwydd.
Ychwanegodd ei bod yn "annhebygol iawn" y byddai clybiau nos yn gallu ailagor.
"Rydyn ni'n ymwybodol iawn bod angen bod yn ofalus iawn gadael i bobl gymysgu dan do ar adeg ble nad ydy pawb o'r bobl ifanc yna wedi cael eu brechu," meddai.
"Rydyn ni'n cydnabod fod pobl ifanc wedi cael amser anodd ac mae'r diwydiannau hynny yn awyddus iawn i ailddechrau, ond mae cefnogaeth ar gael i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi trwy'r argyfwng yma."
Ychwanegodd ei bod yn "bwysig fod pobl yn cydnabod nad ydyn ni allan o'r pandemig eto", gan bwysleisio bod angen i bawb barhau i gadw at y rheolau.
"Dydy pethau ddim am fynd yn ôl i'r arfer am fisoedd lawer eto," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021