'Angen i ymwelwyr o Loegr gael profion Covid cyson'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymwelwyr sy'n dod i Gymru o ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfraddau uwch o'r coronafeirws i gael profion cyson.
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford y dylai ymwelwyr sy'n bwriadu ymweld â Chymru yn fuan bacio profion llif unffordd.
Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i bobl sy'n byw mewn wyth ardal yn Lloegr lle mae nifer yr achosion o amrywiolyn India yn uchel - Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside i deithio cyn lleied â phosibl allan o'r ardal.
Ond nid yw'r cyngor yn gwahardd teithio y tu hwnt i'r ardaloedd hyn.
'Angen diogelu Cymru'
Ar drothwy gwyliau'r Sulgwyn dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o'r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio'r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio.
"Dim ond y rhai sy'n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau'r coronafeirws ddylai deithio.
"Dylai pawb sy'n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o'r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.
"Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru."
Mae'r ffigurau diweddaraf yn nodi bod dros 3,200 o achosion o amrywiolyn India yn Lloegr. Mae 57 o achosion yng Nghymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i'r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
"Mae'r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â'r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.
"Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw'n llwybr gorau allan o'r pandemig hwn. Rwy'n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu'r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi'u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy'n gymwys yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021