Cŵn yn help i garcharorion yn ystod y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Yn sgil cyfyngiadau Covid mae swyddogion carchar yn mynd â'u cŵn i'r gwaith er mwyn helpu carcharorion yn ystod y pandemig.
Mae ymweliadau â charchardai yng Nghymru a Lloegr wedi eu hatal yn gyson yn ystod y flwyddyn ac mae yna ofnau y gallai'r cyfyngiadau effeithio ar iechyd meddwl rhai carcharorion.
Yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont, dywed swyddogion bod y cŵn yn ysgafnhau'r awyrgylch.
Dywed Lloyd, sy'n debygol o fod yn y carchar am flwyddyn arall, bod treulio amser yng nghwmni'r cŵn yn ei helpu i "edrych ymlaen".
"Mae Rosco yn atgoffa rhywun o sut oedd bywyd a sut y bydd pethau pan fyddai'n rhydd," meddai.
"Mae'n neis peidio cael fy atgoffa o'r hyn dwi wedi'i wneud, a dwi'n edrych ymlaen yn lle edrych yn ôl."
'Gwneud i garcharorion ymlacio'
Mae'r cynllun sy'n cael ei redeg gan yr elusen Pets and Therapy yn cael ei weithredu mewn 24 carchar ar draws y DU ac fe gafodd ei gyflwyno yng Ngharchar y Parc ar ddechrau'r pandemig.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhai carcharorion sydd wedi dangos symptomau Covid wedi gorfod treulio 23 awr yn eu cell a dim ond am ryw deirawr mae troseddwyr ifanc wedi gallu gadael.
Mae Shirley-Ann Gates, sy'n helpu carcharorion sydd â phroblemau iechyd meddwl, anghenion dysgu a dementia, yn mynd â'i chi Bella i'r carchar bob wythnos.
Dywedodd: "Mae Bella weithiau yn mynd i gell y carcharorion, mynd gyda nhw am dro neu gyfarfodydd a gwrandawiadau parôl - lle bynnag dwi'n mynd, mae Bella yn dod hefyd.
"Mae hi wir yn gwneud i garcharorion ymlacio a dwi'n credu eu bod nhw'n siarad yn lot gwell pan maen nhw'n gweld ci.
"Mae nifer o garcharorion, sy'n credu na fyddan nhw'n gweld ci eto, yn mynd yn eitha' emosiynol pan maen nhw'n ei gweld hi.
"Roedd 'na un person, sydd wedi bod mewn sawl carchar, yn tueddu i fod braidd yn dreisgar ond wedi iddo weld Bella mae e'n cydweithredu yn llawer iawn gwell gyda staff a chyd-garcharorion."
'Gwrandawyr gwych'
Dywedodd Matthew Robinson o elusen Pets As Therapy bod "cŵn yn wrandawyr gwych a'u bod yn gostwng lefelau tyndra ac felly eu bod yn dod â phleser mawr i nifer".
Mae'r elusen hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr sy'n mynd â'u hanifeiliaid i gartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion.
Am resymau diogelwch dim ond staff sydd â'r hawl i fynd â chŵn i'r carchar.
Mae pob ci yn gorfod cael asesiad cyn y bydd elusen yn ei gofrestru.
Mae'r asesiad yn profi natur y ci, yn asesu a ydyn nhw'n cael ofn yn hawdd ac a ydynt yn ddigon iach a ffit i weithio fel anifeiliaid therapi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020