Llywodraeth yn 'awyddus i gefnogi' Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r brifwyl gael ei chanslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "awyddus i gefnogi Eisteddfod yr Urdd wrth i'r mudiad gyrraedd ei ganmlwyddiant y flwyddyn nesaf".

Ond mae wedi gwrthod cadarnhau a fyddan nhw'n cadw addewid ym maniffesto Llafur Cymru i sicrhau bod mynediad am ddim i'r brifwyl yn 2022.

Roedd maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad y Senedd ddechrau Mai yn dweud: "Byddwn yn... darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022 ar ei phen-blwydd yn 100 oed".

Ni wnaeth y llywodraeth gadarnhau y bydd hynny'n digwydd, gan ddweud yn hytrach y byddai trafodaethau yn dechrau yn fuan.

Canmlwyddiant yr Urdd

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2022 wedi i'r ŵyl orfod cael ei chanslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig.

Mae'r mudiad yn dathlu pen-blwydd arbennig bryd hynny, gyda chanmlwyddiant ei sefydlu gan Sir Ifan ab Owen Edwards yn 1922.

 hithau'n wythnos Eisteddfod T, dywedodd prif weithredwr yr Urdd ar Radio Cymru ddydd Sul ei bod yn gobeithio y bydd modd i'r brifwyl fod am ddim y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd ei fod yn rhan o faniffesto Llafur Cymru.

"Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn y maniffesto Llafur y bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf am ddim, a dwi'n wir obeithio y bydd yr addewid yna yn parhau ar gyfer Eisteddfod Dinbych," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2022, wedi i'r ŵyl orfod cael ei chanslo ddwywaith

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n "parhau i gydnabod llwyddiant a phwysigrwydd Eisteddfod yr Urdd - un o'r gwyliau ieuenctid mwyaf yn Ewrop".

"Ein ffocws yr wythnos hon yw llwyddiant yr Eisteddfod T, ond mi fyddwn yn dechrau trafod Eisteddfod Dinbych 2022 yn fuan, wrth edrych ymlaen at y canmlwyddiant," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Byddwn yn diweddaru'r trefnwyr ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud."

Dywedodd yr Urdd nad oedd ganddyn nhw sylw pellach i'w wneud ar y mater.

Gwerthfawrogi cefnogaeth y llywodraeth

Y llynedd, dywedodd y mudiad mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.

Mae'r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf hefyd "yn dangos gostyngiad incwm sylweddol o £14m a cholledion o dros £3.4m" i'r mudiad.

Dywedodd Sian Lewis ddydd Sul fod pethau yn parhau i fod yn heriol ond fod yr Urdd wedi gwerthfawrogi'n fawr gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.

"'Dan ni ddim allan o'r dŵr dwfn ar hyn o bryd - 'dan ni'n symud ymlaen yn bositif," meddai.