Cais i berchnogion cŵn yn Abergwili arwyddo llw
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl sy'n mynd â'u cŵn am dro o gwmpas Parc Yr Esgob yn Abergwili ger Caerfyrddin yn cael cais i arwyddo llw i gadarnhau eu bod yn fodlon trin yr ardal gyda pharch.
Mae Parc Yr Esgob yn Abergwili a'r ardal o'i gwmpas wedi gweld cynnydd sylweddol mewn pobl yn gadael baw cŵn yn ystod y cyfnodau clo.
Ddydd Sadwrn bydd grŵp 'Pawennau Yn Y Parc' yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau defnydd cyfrifol o'r safle.
Yn ystod y digwyddiad bydd busnesau ac elusennau lleol yn rhoi cyngor i ymwelwyr ar faeth, iechyd a hyfforddiant cŵn.
Dywedodd Ffiona Jones, Swyddog Ymgysylltu a Dysgu Cymunedol yr Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn, sy'n gweithio i'r parc: "Bydd y digwyddiad yn gyfle i ni esbonio pam ein bod ni'n gofyn i bobl godi baw ci a pham ei bod hi'n well 'da ni bod y cŵn ar dennyn.
"Ni methu gorfodi pobl i gael eu cŵn ar dennyn oherwydd mae'n barc cyhoeddus. Ond pan mae'n nhw'n rhedeg i ffwrdd, nid yw eu perchennog, yn aml, yn gwybod ble maent wedi mynd.
"Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n grêt, ond un neu ddau yw'r broblem."
'Diogrwydd'
Mae nifer o bentrefwyr Abergwili wedi cwyno mewn grŵp Facebook am y baw cŵn ar eu strydoedd ac yn arbennig ym Mharc Yr Esgob, ble mae nifer fawr o bobl yn mynd â'u cŵn am dro.
Roedd un defnyddiwr yn cwyno am lwyth o faw cŵn y tu allan i fynedfa'r parc un bore, tra bod un arall yn gandryll bod rhywun wedi rhoi'r baw mewn bag bin ond yna wedi'i adael wrth fôn coeden yn y parc.
Dywedodd Ms Jones bod nifer o gwynion wedi bod yn yr ardal, ac er bod pethau yn gwella, ei bod yn broblem enfawr yn y pentref a'r ardal leol.
"Mae llwybr beicio Dyffryn Tywi y tu allan ac mae wastad baw ci yno - lot ohono fe," meddai.
"Es i draw â phlant o'r ysgol cwpl o wythnosau'n ôl ac ro'n i'n gorfod stopio trwy'r amser i wneud yn siŵr bod nhw'n ymwybodol bod baw ci ar y llawr.
"Fel perchennog ci, fi'n credu mai jyst diogrwydd yw e, ond efallai bod rhesymau fel bod pobl methu plygu i bigo fe lan. Dyna beth ni'n gobeithio ffeindio allan wrth siarad â perchnogion cŵn ddydd Sadwrn, a beth allwn ni ei wneud i helpu'r broblem.
"Y gobaith yw y bydd y grŵp cymunedol newydd yn hybu pobl i barchu'r parc a'r ardal leol - mae'n bosib nad yw rhai wedi cael hyfforddiant ar drin cŵn yn y cyfnod clo. Ni jyst angen rhoi cyngor a dod i adnabod y perchnogion yn well," ychwanegodd Ms Jones.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014