Mesurau arbennig Rhondda Cynon Taf i ddelio â baw ci

  • Cyhoeddwyd
wardeniad baw ci RCT
Disgrifiad o’r llun,

Mae wardeniaid arbennig yn crwydro meysydd chwarae a mannau cyhoeddus yn rhoi dirwy i bobl sy'n gadael eu cŵn i fawa

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dosbarthu gwerth £22,000 mewn dirwyon i berchnogion cŵn yn y 10 mis ddiwethaf.

Mae baw ci ar feysydd chwarae yn "broblem fawr" ac mae'r penderfyniad y cyngor i gyflwyno Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPOs) llynedd wedi bod yn boblogaidd.

Mae BBC Cymru wedi darganfod bod 11 cyngor sir arall wedi cyflwyno PSPOs yn ddiweddar i geisio trin â'r mater.

Mae'r gorchmynion yn golygu bod modd cyflwyno pwerau ychwanegol i'r heddlu a swyddogion gorfodaeth eraill i stopio, holi a rhoi dirwy i bobl am ymddygiad anghymdeithasol.

Mae nhw'n ychwanegol i'r cyfreithiau ar faw ci ac ymddygiad anghymdeithasol ac yn cyflwyno rheolau pendant sy'n gwneud hi'n haws rhoi dirwy i neu erlyn unigolion.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r gorchmynion yn cynnwys cadw ci ar dennyn mewn mannau arbennig, gwaharddiad ar gŵn ar feysydd chwarae ac i berchnogion gadw bag yn eu meddiant ar gyfer glanhau baw.

Problem fawr i'r cyhoedd

Esboniodd cyfarwyddwr gwasanaethau'r priffyrdd a gofal y strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Nigel Wheeler, bod y dirwyon yn mynd tuag at dalu am wardeniaid arbennig i ddosbarthu'r dirwyon.

"Rydym wedi cyflwyno'r wardeniaid yma mewn ymateb i'r hyn roedd y cyhoedd eisiau - dywedodd y cyhoedd fod hyn yn broblem fawr iddynt, ac rydym wedi mynd i daclo'r peth.

"Dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn gwrando ar rybuddion - mae'n rhaid meddwl am ddiogelwch pobl ifanc ar feysydd chwarae, ac roedd pobl yn gadael i'w cŵn grwydro a bawa."

Dywedodd Mr Wheeler fod pobl oedd yn gwrthod talu'r ddirwy - sydd fel arfer oddeutu £100 - yn gorfod wynebu'r llys a thalu dirwyon oedd yn dueddol o gyfateb i dros £5,000.

Disgrifiad o’r llun,

Collodd Collin ei goes wedi iddo dorri asgwrn ar y cae rygbi a dal haint oddi wrth faw ci

Bu'n rhaid i Collin Smith o Feisgyn yn Rhondda Cynon Taf golli ei goes wedi iddo ddal haint o faw ci.

Wedi iddo dorri ei goes yn wael ar y cae rygbi, fe wnaeth y doctoriaid ddarganfod haint.

"Roedd yr haint wedi cael ei achosi gan faw anifail, ac fe ledodd yr haint... bu'n rhaid i'r doctoriaid dorri'r goes o'r ben-glin a rhoi un prosthetig i fi."

Er bod Mr Smith wedi gorfod colli ei goes, mynegodd fod hynny'n llawer prinnach erbyn heddiw, ond fod problemau pellach, megis tocsocariasis, yn bosib.

Mae Mr Smith yn gefnogol iawn o gamau cyngor Rhondda Cynon Taf i ddelio gyda'r mater.

"Mae yna lawer o bobl gydwybodol, ond mae'n amlwg bod nifer o bobl sy'n anghyfrifol iawn hefyd.

Dwi'n berchen ar gi, ac yn ofalus ac yn mynd ag e i wneud ei fusnes mewn lle diogel, na fydd yn agos at blant.

"Mae'r gwaddod yn treiddio mewn i'r ddaear, yn diflannu, ac yn ddamwain sy'n aros i ddigwydd."

PSPOs cynghorau eraill

Mae 12 cyngor sir - yn cynnwys Rhondda Cynon Taf - bellach yn defnyddio PSPOs i dargedu perchnogion nad ydynt yn glanhau baw eu ci.

Mae'r cynghorau sy'n gwneud defnydd ohonynt yn cynnwys: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Torfaen a Wrecsam.

Mae cynghorau Penybont, Caerdydd a Bro Morgannwg yn ystyried cyflwyno'r mesur.

Dywedodd cynghorau Abertawe, Powys, Sir Benfro, Ynys Môn, Sir Fynwyr a Cheredigion nad oeddent yn gwneud defnydd o PSPO yn benodol, ond fod ganddynt bwerau eraill i ddosbarthu dirwyon.

Ni chafodd y BBC ymateb oddi wrth Ferthyr Tydfil ynglŷn â'm cais am wybodaeth.