Problem baw cŵn Dolgellau yn gwaethygu dros y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Parc Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc yn ardal sydd wedi profi problemau baw cŵn yn Nolgellau

Mae pryder cynyddol am broblem baw cŵn yn Nolgellau, wrth i'r cyngor tref ddweud fod y mater wedi gwaethygu dros gyfnod y pandemig.

Un sy'n poeni yn arw am y sefyllfa ydy'r Cynghorydd Branwen Dafydd, aelod o Gyngor Tref Dolgellau.

Mi gafodd hi brofiad annifyr yn ddiweddar wrth fynd a'i phlentyn bach i'r parc am dro.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud ei fod wedi cynyddu patrolau wardeniaid stryd yn y dref "er mwyn cadw golwg am berchnogion cŵn anghyfrifol".

'Poeni fel rhiant'

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd: "Mae wedi dod yn amlwg i ni fel cynghorwyr tref bod ni'n derbyn nifer o gwynion gan drigolion Dolgellau bod y broblem ar gynnydd o ran pobl yn gadael baw cŵn ar strydoedd y dref.

"Ar y Marian, Llwybr y Fawddach - llefydd poblogaidd. Yn gynyddol ers i'r cyfnod clo gychwyn y llynedd 'dan ni'n teimlo bod y broblem ar gynnydd.

"O'n i yn y parc dros y penwythnos efo'r mab bach sydd ddim yn ddwy oed eto.

"Mi faglodd o yn agos iawn at faw ci a'r diwrnod hwnnw bu raid i mi bwsio'r pram adref a golchi olwynion y pram gan fod 'na faw ci arno fo.

"Mae hyn yn gwneud i mi wirioneddol boeni fel rhiant."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Branwen Dafydd bod "y broblem ar gynnydd" ers dechrau'r pandemig

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd cydnabod fod "problem baw ci yn gyffredin mewn nifer o gymunedau oherwydd ymddygiad di-hid lleiafrif bychan o berchnogion cŵn".

Ychwanegodd llefarydd: "Fel cyngor, rydym yn galw ar berchnogion i wneud y peth iawn a chodi baw eu cŵn a naill ai mynd a'r bag gartref a'i roi yn y bin olwyn, neu ei roi mewn bin stryd.

"Nid yn unig fod baw ci yn hyll ac yn achosi pryder i drigolion lleol, ond gall hefyd achosi problemau iechyd difrifol i oedolion a phlant sy'n dod i gyswllt ag o.

"Yn Nolgellau yn benodol, mae Cyngor Gwynedd wedi cynyddu patrolau Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd yn y dref er mwyn cadw golwg am berchnogion cŵn anghyfrifol ac wedi gosod arwyddion rhybudd ychwanegol a biniau priodol newydd mewn ardaloedd problemus o'r dref. 

"Dylai unrhyw un sydd am adrodd am berchnogion cŵn anghyfrifol neu am broblem baw ci fynd i wefan y cyngor."

Pynciau cysylltiedig