Ffatri gaws Ynys Môn i greu 100 o swyddi newydd

  • Cyhoeddwyd
Darluniad o Hufenfa MonaFfynhonnell y llun, Mona Dairy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Hufenfa Mona y ffatri gaws mwyaf ecogyfeillgar yn Ewrop, gan redeg yn llwyr ar drydan adnewyddadwy

Bydd ffatri gaws gwerth £20 miliwn yn creu 100 o swyddi ar Ynys Môn.

Bydd Hufenfa Mona y ffatri gaws mwyaf cynaliadwy yn Ewrop, gan redeg ar drydan adnewyddadwy yn unig.

Bydd y prosiect yn cefnogi'r cynhyrchiant o gawsiau Cymreig a chyfandirol ar safle Parc Diwydiannol Mona yng Nghaergybi.

Wedi i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Medi, mae disgwyl i'r ffatri allu cynhyrchu 7,000 tunnell o gaws y flwyddyn.

'Ffatri mwyaf ecogyfeillgar Ewrop'

Dywedodd Ronald Akkerman, Rheolwr Cyfarwyddwr Hufenfa Mona, y bydd y ffatri yn gweld trosiant yn codi i £25 miliwn erbyn 2022, gan osod safonau newydd i'r diwydiant wrth iddynt gyfuno dulliau arloesol a thraddodiadol i greu Cheddar, Gouda, Edam ac ystod o gawsiau crefft.

Bydd yr holl gawsiau yn cael eu cynhyrchu gyda llaeth o ffermydd lleol o dan oruchwyliaeth y cadeirydd David Wynne-Finch.

Dywedodd Mr Akkerman: "Mi fydd ystod y cynnyrch y byddwn yn ei gynnig i'r sectorau manwerthu a gwasanaeth bwyd ar gyfer bwydlenni bwytai, cyfanwerthwyr a chwsmeriaid, a fydd yn gallu dewis y math o gaws, cynnwys y braster, a siâp y caws yn ogystal â chael yr opsiwn o ddewis cynhwysion ychwanegol fel perlysiau a sbeisys.

"Bydd hyn yn arwain at gynhyrchu cynhyrchion label premiwm ein hunain mewn cyfeintiau sylweddol neu mewn sypiau cymharol fach."

Ychwanegodd: "Mae'r llinell gynhyrchu caws wedi'i hadeiladu i ddarparu ar gyfer uchelgeisiau twf y cwmni yn y dyfodol.

"Gall gwahanol ffrydiau llaeth gael eu prosesu i mewn i gynhyrchion arbenigol penodol fel caws organig.

"Bydd gwastraff fel gweddillion llaeth yn cael ei brosesu yn ffatri Mona Biogas gerllaw, a bydd hyn yn ei gwneud y ffatri fwyaf ecogyfeillgar yn Ewrop, gan redeg yn llwyr ar drydan adnewyddadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Cyfarwyddwr Hufenfa Mona, Dr Graham Jackson, gyda Lesley Griffiths, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig a Gogledd Cymru

Datgelodd Mr Akkerman y bydd Hufenfa Mona yn cydweithio'n agos â chwsmeriaid i nodi tueddiadau'r farchnad, i ddatblygu cynhyrchion newydd, ac i greu mantais gystadleuol amlwg ar lefel gwasanaeth manwerthu a bwyd.

"Dyma'r datblygiad newydd mwyaf yn y sector bwyd yng Ngogledd Cymru eleni ac mae'n denu llawer iawn o ddiddordeb ar draws y diwydiant llaeth a chaws yn y DU ac Ewrop," meddai.

"Y ffocws fydd datblygu partneriaethau tymor hir gyda chwsmeriaid a chyflenwyr llaeth - mae'n brosiect cyffrous, yn wych i'r diwydiant a'r rhanbarth."

'Hwb i'r diwydiant laeth leol'

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a Threfnydd y Senedd, wrth ei bodd bod y prosiect ar y trywydd iawn i greu mwy na 100 o swyddi newydd i'r ardal yn y pen draw.

Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gaergybi, Ynys Môn, a'r ardal ehangach.

"Mae'n dda gweld y bydd llaeth o ffermydd lleol yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r caws a bydd hyn yn hwb i'r diwydiant laeth, ac mae'n wych gweld mesurau'n cael eu cymryd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cyfleuster hwn a fydd yn creu dros 100 o swyddi newydd, sy'n gadarnhaol iawn i'r rhanbarth."

Pynciau cysylltiedig