Perchennog newydd i ailagor ffatri gaws yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
GRH Minffordd

Mae ffatri gaws yng Ngwynedd a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni wedi cael ei phrynu gan un o ddosbarthwyr cynnyrch llaeth mwyaf y DU.

Roedd GRH Food Company yn cyflogi 86 o bobl ger Penrhyndeudraeth cyn cau ym mis Mehefin.

Mae'r busnes bellach dan berchnogaeth grŵp Futura Foods UK Ltd, sy'n gobeithio y bydd y cam yn eu galluogi i gynnig mwy o wasanaethau i'w cwsmeriaid a datblygu cynnyrch newydd.

Doedd llefarydd ar ran y cwmni ddim yn gallu cadarnhau faint o weithwyr maen nhw'n gobeithio cyflogi yno ar ôl prynu asedau'r busnes ym Minffordd, ond mae'n rhagweld y bydd y pryniant yn "cael effaith bositif ar y gymuned leol".

Mae Futura Foods yn gwasanaethu darparwyr, cynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd ar draws y DU ac mae wedi sefydlu is-gwmni Futura Foods Wales Ltd (FFW) ar gyfer y safle ar Barc Busnes Eryri.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Futura Foods, Hans Christiansen bod y farchnad am fwydydd parod yn tyfu'n gynyddol, a bydd y pryniant "yn creu cyfleoedd newydd" o fewn y farchnad cyflenwi caws a iogwrt.

Bydd cwsmeriaid presennol Futura, meddai, yn croesawu'r cyfuniad o wasanaeth torri a gratio caws GRH Foods ac arbenigedd yr uwch gwmni.

'Hanfodol i gadw'r gweithlu lleol'

Dywedodd AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ei bod yn falch bod prynwr wedi dod i'r fei a'i bod yn edrych ymlaen at gyfarfod rheolwyr Futura Foods yr wythnos nesaf i drafod eu cynlluniau.

"Mae'n hanfodol i gadw'r gweithlu lleol," meddai.

Cafodd GRH Food Company ei sefydlu fel busnes teuluol yn 1989.

Caeodd y ffatri ym Minffordd ddwy flynedd ar ôl i'r cwmni gael £1.7m gan Lywodraeth Cymru i symud o'r Ffôr, ger Pwllheli i Barc Busnes Eryri.

Mae Futura yn rhan o gwmni Nordex Food Group, sydd â phencadlys yn Nenmarc ac sy'n allforio cynnyrch i dros 70 o wledydd.