Heddlu'r Gogledd yn cadarnhau marwolaeth Frankie Morris
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff dyn ifanc o Ynys Môn fu ar goll am dros fis gafodd ei ddarganfod mewn coedwig ger Bangor ddydd Iau.
Diflannodd Frantisek "Frankie" Morris ddydd Sul 2 Mai wedi iddo adael safle rêf y noson gynt yn ardal Waunfawr.
Mae profion wedi cadarnhau mai corff y dyn 18 oed o Landegfan gafodd ei ddarganfod mewn coetir trwchus ger Caerhun ar gyrion Bangor.
Dywed yr heddlu nad yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae mam Frankie, Alice Morris, wedi rhoi diolch ar ran ei deulu "i bawb fu'n rhan o'r chwilio am Frankie, yn enwedig y gymuned leol".
Ychwanegodd: "Roedd Frankie'n cael ei garu'n fawr iawn a bydd yn cael ei golli'n fawr iawn. Byddwn yn ddiolchgar rŵan petaswn ni'n cael preifatrwydd i alaru yn y cyfnod anodd yma."
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'r teulu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewellyn: "Mae ein meddyliau yn naturiol gyda theulu Frankie.
"Mae hwn wedi bod yn archwiliad helaeth a hir a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ein helpu dros y pum wythnos ddiwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021