'Ofni bod rhywun wedi gwneud niwed i'm mab hardd'
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn ifanc o Ynys Môn sydd ar goll ers bron i fis wedi dweud ei bod yn "wir ofni" bod rhywun wedi "gwneud niwed" iddo.
Methodd Frantisek Morris, sy'n cael ei nabod fel Frankie, â dychwelyd adref i'w gartref yn Llandegfan dydd Sul, 2 Mai ôl mynd i barti mewn chwarel ger Waunfawr.
Wrth apelio am gymorth i ddod o hyd iddo, dywedodd ei fam, Alice Morris mewn cynhadledd newyddion ei bod yn derbyn y posibilrwydd nad yw'n dal yn fyw.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nos Iau na fydd yna gamau pellach yn erbyn tri pherson a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r achos a'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae Frankie ar goll rŵan ers 27 o ddiwrnodau ac mae'n hollol groes i'w gymeriad iddo fod i ffwrdd am unrhyw hyd amser heb gysylltu ag unrhyw un," meddai Ms Morris.
"Dwi'n wir ofni bod rhywun wedi gwneud niwed i fy mab hardd ond dwi'n sylweddoli wedi amser mor hir bod hi'n bosib bod o ddim bellach yn fyw.
"Plîs wnewch chi fy helpu dod o hyd iddo trwy roi unrhyw wybodaeth sydd gyda chi i'r heddlu."
Ychwanegodd ei bod "yn diolch o galon" i bawb "sydd wedi cynnig gwybodaeth neu gefnogaeth yn ystod y chwilio am Frankie".
Yn dilyn yr apêl dywedodd wrth newyddiadurwyr: "Roedd yn mwynhau bod yn yr awyr agored, ac eirafyrddio yn y Weriniaeth Siec yn y gaeaf.
"Roedd yn caru bod hefo'i ffrindiau. Mae'n glyfar iawn ac yn fedrus gyda'i ddwylo. Mae'n artist eitha' talentog. Roedd yn arfer neud graffiti ar draws fy nhref enedigol.
"Mae'n berson gyda chalon yn y lle iawn."
Diffyg ateb yn 'od'
Dywedodd Mrs Morris ei bod yn y Weriniaeth Siec pan siaradodd gyda'i mab ddiwethaf, ar y dydd Mercher cyn iddo ddiflannu.
"Roedd yn swnio'n optimistaidd," meddai. "Roedd wedi bod yn safio arian er mwyn cael gwersi gyrru ac roedd eisiau prynu fan er mwyn teithio.
"Nes i yrru neges ar y dydd Gwener yn gofyn sut roedd o ac fe atebodd 'dwi'n iawn'.
"Byddai wastad yn ateb o fewn diwrnod os roeddwn i'n danfon neges. Roedd yn od bod dim ateb ar y dydd Sul na'r dydd Llun."
Dywedodd bod tad Frankie wedi cysylltu gyda'r heddlu ddydd Mawrth, 4 Mai.
"Ro'n i'n meddwl bod o wedi cael damwain - dyna be' roedden ni'n meddwl ar y dechrau. Ond wedi'r parti [mae lluniau CCTV wedi ei ddangos] yn cerdded gyda beic â phyncjar ac fe nath o jyst diflannu.
"Dwi'n meddwl bod rhywbeth drwg wedi digwydd iddo, mae rhywun wedi gwneud rhywbeth drwg iddo.
"Byddai ei ddarganfod yn fyw yn wyrth ond 'dach chi'n clywed am bobl sy'n dod i'r fei ar ôl colli'r cof - dyna fyddai'r senario gora'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021
- Cyhoeddwyd16 Mai 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021