Diflaniad Frankie Morris: Heddlu'n darganfod corff

  • Cyhoeddwyd
Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Frankie Morris wedi bod mewn parti mewn chwarel ger Waunfawr cyn iddo ddiflannu

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod yn ystod y chwilio am ddyn ifanc o Sir Fôn.

Cafodd Frantisek "Frankie" Morris, 18, ei weld ddiwethaf ger y Vaynol Arms, Pentir, ddydd Sul, 2 Mai, ddiwrnod ar ôl mynd i barti mewn chwarel ger Waunfawr.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod corff wedi cael ei ddarganfod mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor yn gynharach ar brynhawn ddydd Iau.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad ond dydy'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol. Bydd post-mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i'r corff yn yr ardal goediog yma ger Caerhun

Yn ôl yr heddlu mae teulu Mr Morris wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Lee Boycott: "Mae ein cydymdeimladau dwysaf a diffuant gyda theulu a ffrindiau Frankie yn ystod yr adeg anodd iawn yma."

Ers ei ddiflaniad, mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o'r chwilio, gan ddefnyddio drônau a chŵn.

Cafodd tri pherson eu harestio yn dilyn ymchwiliadau i'w ddiflaniad, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.

Pynciau cysylltiedig