Cymru dan-21 0-0 Moldofa dan-21
- Cyhoeddwyd
Di-sgôr oedd hi rhwng Cymru a Moldofa yn eu gêm ragbrofol gyntaf wrth geisio cyrraedd Pencampwriaeth dan-21 Ewrop yn 2023.
Daeth moment fwyaf dadleuol y gêm gydag 20 munud i fynd, wrth i Sion Spence gael ei anfon o'r cae er iddo ymddangos fel ei fod wedi anafu.
Roedd y golwr Dan Barden o Norwich yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros y tîm, oedd yn cynnwys ymosodwr disglair Plymouth, Luke Jephcott.
Cymru gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf yn Llanelli, ond doedd dim ffordd heibio i amddiffyn yr ymwelwyr cyn yr egwyl.
Roedd cyfleoedd yn brin ar ddechrau'r ail hanner hefyd, ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth pan gafodd Spence gerdyn coch.
Fe ddisgynnodd Spence yn y cwrt cosbi yn dilyn ymgais i gyrraedd y bêl, ond er iddo gael ei gario o'r maes gan y parafeddygon yn dilyn triniaeth i'w ben-glin, penderfynodd y dyfarnwr ei fod wedi deifio ac fe ddangosodd ail gerdyn melyn iddo.
Tarodd peniad Joe Adams y trawst funudau'n ddiweddarach gyda chyfle gorau Cymru, ond ni ddaeth y gôl fuddugol fyddai wedi rhoi'r dechreuad perffaith i'w hymgyrch.
Y timau eraill yn eu grŵp ydi'r Iseldiroedd, Y Swistir, Bwlgaria a Gibraltar, gyda'r enillwyr yn mynd i'r twrnament yn Rwmania a Georgia, a'r tîm sy'n ail yn wynebu gemau ail gyfle.