Arestio dau wedi gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi arestio dau ddyn ar ôl i fenyw farw mewn gwrthdrawiad ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentre' Trelales tua 18:30 ddydd Sadwrn ar ôl i Volkswagen Golf wyro o'r ffordd a syrthio lawr clawdd.
Bu farw dynes oedd yn teithio yn y car.
Mae dau ddyn 32 a 37 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion.