'Sioc llwyr' dyn gafodd ail brawf positif Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jamie Dawes-Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jamie wedi teithio i Bortiwgal i weld ei dîm yn ffeinal Cwpan y Pencampwyr

Mae gŵr o Gaernarfon wnaeth brofi'n bositif am Covid-19 am yr ail waith eleni ar ôl teithio i Bortiwgal yr wythnos ddiwethaf yn annog pobl i dderbyn y brechlyn.

Fe deithiodd Jamie Dawes-Hughes, 35, i Porto i wylio Manchester City yn erbyn Chelsea yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yr wythnos ddiwethaf.

Er iddo ddilyn y rheolau a'r gofynion i deithio i Bortiwgal pan oedd ar restr werdd Llywodraeth y DU, fe brofodd yn bositif am Covid-19 wrth ddychwelyd.

Mae Jamie eisoes wedi dioddef gyda'r haint ym mis Chwefror eleni, ond mae'n dweud mai prin yw'r symptomau y tro hwn ac "mae'n rhaid mai'r brechlyn" sy'n gyfrifol am hynny.

Mae o felly yn annog unrhyw un sy'n gymwys i dderbyn y brechlyn i'w dderbyn.

Disgrifiad o’r llun,

I rwbio halen yn y briw i Jamie, fe gollodd Man City o 1-0 yn erbyn Chelsea yn y ffeinal

Doedd penderfynu teithio i Porto i wylio'r gêm ddim yn un hawdd, meddai Jamie, sy'n gweithio fel archifwr.

Ond pan gafodd neges fel cefnogwr yn dweud ei fod yn gymwys i fynd draw, fe benderfynodd fod y cyfle yn rhy dda i'w wrthod.

"Ar y pwynt yna mi oedd Portiwgal dal ar y rhestr werdd," meddai.

"Mi oedd 'na systemau yn eu lle i wneud trafeilio yn fwy saff a phenderfynais mae'n gyfle one in a million mynd i'r Champions League final a gweld fy nhîm yn chwarae ac es i amdano."

Roedd yn rhaid i Jamie deithio i Lerpwl ddeuddydd cyn hedfan er mwyn derbyn prawf coronafeirws dan ganllawiau Llywodraeth y DU.

Ar ôl derbyn canlyniad negatif a llenwi'r dogfennau perthnasol fe aeth am Bortiwgal.

Dywedodd bod y trefniadau yn y stadiwm ac ym Mhortiwgal yn "wych" felly fe gafodd sioc wrth dderbyn prawf Covid-19 positif wrth ddychwelyd yn ôl i Gymru.

"Dipyn o sioc gan bo' fi yn teimlo... wel doedd genna' i ddim symptomau, o'n i'n teimlo yn iawn," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

"Felly mi es i nôl i hunan-ynysu eto ond y newyddion da ydy does genna' i ddim symptomau."

Roedd derbyn prawf Covid-19 positif yn fwy fyth o sioc i Jamie wrth gofio ei fod eisoes wedi brwydro'r feirws ym mis Chwefror eleni.

"Mi oedd o'n sioc yn llwyr i mi.

"Er mi oeddwn i wedi dal coronafeirws nôl yn mis Chwefror - dwi dal wedi bod yn wyliadwrus a dwi ddim yn un i gymryd siawns.

"Efallai fy mod i wedi cymryd siawns wrth fynd i Bortiwgal ond nes i ddilyn y mesurau oedd yn eu lle a nes i dal lwyddo i ddal o eto."

Y tro hwn does gan Jamie ddim llawer o symptomau a hynny yn wahanol i'r tro diwethaf.

"Nath o jest tynnu bob mymryn o egni oedd genna' i [y tro cyntaf] - o'n i'n gallu anadlu ond doeddwn i 'rioed di teimlo mor flinedig."

'Heb basio'r feirws ymlaen'

Ers bod yn hunan-ynysu mae teulu ac unigolion y mae Jamie wedi dod i gyswllt â nhw oll wedi derbyn prawf negatif, sy'n golygu nad ydy o wedi trosglwyddo'r haint iddyn nhw.

Mae o'n credu fod y ffaith iddo dderbyn un dos o'r brechlyn efallai yn rheswm am hynny.

"Gan bod fi wedi cael y brechlyn, efallai dyna pam bod symptomau fi ddim i weld y tro yma, efallai dyna pam bod fi'n teimlo'n iawn a pham bod fi heb basio'r feirws ymlaen i neb arall chwaith," meddai.

Mae Jamie felly wrthi'n cwblhau ei gyfnod yn hunan-ynysu ond wrth wneud hynny mae o rŵan yn erfyn ar bobl sy'n gymwys i dderbyn y brechlyn cyn gynted â phosib.

"Yn ôl ym mis Chwefror mi oeddwn i y mwyaf sâl dwi erioed 'di bod," meddai.

"Ond y tro 'ma dwi'n teimlo'n iawn felly mae'n rhaid bod y brechlyn wedi gwneud gwahaniaeth a dwi'n annog pawb sydd 'efo'r opsiwn i gael o - ewch amdano."

Mae Jamie hefyd yn dweud ei fod yn brawf bod modd dal yr haint mwy nag unwaith a bod yn rhaid i bobl fod yn wyliadwrus.