Cwis Mawr Pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wales fans in Cardiff fan zoneFfynhonnell y llun, GEOFF CADDICK/AFP/Getty Images

Gyda'r Ewros wedi cyrraedd mae pawb yn trafod y bêl gron - ond faint ydych chi'n ei wybod am bêl-droed Cymru?

Nos Fercher 9 Mehefin, fe wnaeth Lois Angharad yng Nghaerdydd a Carl Roberts yn Baku gynnal cwis yn fyw ar dudalen Facebook Cymru Fyw, dolen allanol.

Pedwardeg o gwestiynau, dros bedair rownd - a dyma'r holl gwestiynau i chi roi cynnig arni.

Cliciwch fan hyn pan fyddwch yn barod i weld yr atebion. Pob lwc!

  • Bydd Cymru Fyw yn dilyn y tîm cenedlaethol drwy gydol yr ymgyrch a llif byw o'r gêm gyntaf yn dechrau am 1230, dydd Sadwrn, 12 Mehefin.

Rownd 1: Euro 2016

1. Pwy sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn Euro 2016?

2. Pwy oedd gôl-geidwad Cymru yn y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia?

3. Pa mor bell o'r gôl oedd y gic rydd sgoriodd Gareth Bale yn erbyn Lloegr - 30 llath, 35 llath neu 40 llath?

4. Faint o assists gafodd Aaron Ramsey yn y bencampwriaeth?

5. Pan sgoriodd o'r gôl eiconig yn erbyn Gwlad Belg, doedd Hal Robson-Kanu heb arwyddo i unrhyw glwb - ond pa dîm oedd o newydd ei adael cyn mynd i Ffrainc ar gyfer Euro 2016?

6. Pwy oedd yn gwisgo crys rhif 16 i Gymru yn 2016?

7. Pa chwaraewr ddaliodd firws yn ystod yr ymgyrch a gorfod hedfan ar awyren breifat i'r gwesty yn Lens cyn gêm Lloegr rhag i weddill y garfan fynd yn sâl?

8. Pwy sgoriodd gôl i'w rwyd ei hun i sicrhau lle Cymru yn yr wyth olaf?

9. Colli 2-0 wnaeth Cymru yn y rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal. Roedd yna ddau sgoriwr... pwy oedden nhw? Hanner marc yr un.

10. Chris Coleman oedd wrth y llyw yn 2016, ond ym mha flwyddyn wnaeth o dderbyn swydd rheolwr Cymru?

Rownd 2: Y Cymry yn Ewrop

1. Fe wnaeth y Gigante Buono John Charles chwarae i Juventus ac i ba glwb Eidalaidd arall?

2. Yn 2013, arwyddodd Gareth Bale i Real Madrid am £85m - a thorri record. Pa chwaraewr oedd y drytaf cyn Bale?

3. Fe wnaeth tîm Bangor roi sioc i'r byd pêl-droed yn 1962 gyda buddugoliaeth enwog yng nghystadleuaeth Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewropeaidd (European Cup Winners' Cup). Yn erbyn pwy oedden nhw?

4. Arwyddodd Mark Hughes i Barcelona yn 1986 - yr un pryd a Gary Lineker. Ar ôl tymor aeth ar fenthyg i glwb arall Ewropeaidd - pa un?

5. Pwy oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop, yr European Cup?

6. Pa gyn chwaraewr a rheolwr Cymru sy'n cael ei adnabod yn Sbaen fel John Benjamin?

7. Pa Gymro wnaeth golli efo Fulham yn rownd derfynol Cwpan Europa yn 2010?

8. Pa chwaraewr yn Uwch Gynghrair Cymru gafodd ei enwebu ar gyfer gwobr y Ballon d'Or gyda Ronaldo a Messi yn 2012?

9. Chafodd Rabbi Matondo ddim ei ddewis i sgwad yr Ewros. Mae'r chwaraewr ar fenthyg efo Stoke City ar hyn o bryd, ond ar fenthyg o ba glwb Ewropeaidd?

10. Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Twrci ddydd Mercher, ond pa Gymro wnaeth chwarae i un o brif glybiau'r wlad - Galatasaray - yn y 90au?

Rownd 3: Cymru dros y degawdau

1. Ym mha flwyddyn wnaeth Cymru chwarae gêm bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf?

2. Pwy oedd y gôl-geidwad pan sgoriodd Pelé yn erbyn Cymru yn 1958?

3. Pa gwmni dillad oedd yn gwneud cit Cymru pan fethodd Paul Bodin y gic o'r smotyn yn erbyn Rwmania yn 1993?

4. Yn y gêm honno, pwy sgoriodd y gôl fuddugol i Rwmania, gan chwalu gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd?

5. Fe sgoriodd Mark Hughes un o'r goliau gorau erioed dros Gymru - foli yn erbyn Sbaen yn y Cae Ras mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd. Ym mha flwyddyn sgoriodd o'r gôl?

6. Fe wnaeth tîm Cymru gyrraedd rownd y chwarteri yn Euro 1976, ond colli yn erbyn pa wlad (gwlad sydd ddim yn bodoli heddiw)?

7. Pa wlad oedd Cymru yn wynebu yn eu gêm ryngwladol olaf ym Mharc yr Arfau yn 1997?

8. Pwy oedd y person cyntaf i ennill 100 cap dros Gymru?

9. Pwy ydy'r chwaraewr hynaf i chwarae dros Gymru - pan oedd o'n 45 mlwydd a 229 diwrnod?

10. Pa gyn-chwaraewr Cymru, oedd yn gweithio ar ddoethuriaeth cemeg cyn troi'n beldroediwr proffesiynol, aeth ymlaen i fod yn athro gwyddoniaeth ar ôl ymddeol o'r bêl gron?

Rownd 4: Yr ymgyrch bresennol

1. Mae'r 'hogyn o Lanrug' Kieffer Moore wedi dod yn dipyn o arwr ers sgorio am y tro cyntaf i Gymru yn Hydref 2019. Beth yw enwau canol Kieffer?

2. Pwy wnaeth Cymru guro o 2-0 yng Nghaerdydd i sicrhau eu lle yn yr Ewros?

3. Gêm gyntaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol i gyrraedd Euro 2020 oedd yn erbyn Slofacia. 1-0 i Gymru oedd hi - ond pwy sgoriodd?

4. Pwy ddaeth ar frig grŵp Cymru yn y gemau rhagbrofol?

5. Bydd rheolwr dros dro Cymru Robert Page yn gobeithio efelychu llwyddiant 2016... ond pryd wnaeth o chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf?

6. Petai'r bencampwriaeth wedi ei chynnal llynedd byddai Joe Allen allan o'r sgwad oherwydd anaf. Beth wnaeth o ei anafu wrth chwarae i Stoke fis Mawrth 2020?

7. Mae dau o'r 26 chwaraewr sydd yn y sgwad yn chwarae efo Abertawe. Connor Roberts ydi un, pwy ydi'r llall?

8. Faint o'r sgwad presennol oedd yn Euro 2016?

9. Faint ydi oed Rubin Colwill, chwaraewr ieuengaf y sgwad?

10. Mae Chris Gunter wedi ei arwyddo i Charlton Athletic, ond ble wnaeth o ddechrau ei yrfa?

Hefyd o ddiddordeb: