Mwy nag erioed yn gwneud cais i astudio nyrsio a meddygaeth

  • Cyhoeddwyd
NyrsysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o geisiadau nag erioed wedi cael eu gwneud i astudio nyrsio a meddygaeth yng Nghymru eleni.

Mae ymchwil gan raglen Wales Live yn dangos bod nifer y ceisiadau i astudio nyrsio plant ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynyddu 49% o'i gymharu â'r llynedd.

Bu'n rhaid i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam gau ceisiadau ar gyfer cyrsiau nyrsio yn gynnar oherwydd y galw.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn dweud bod 15% o gynnydd wedi bod yn nifer y ceisiadau i astudio meddygaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lucy Phillips "gwympo mewn cariad" gyda'r teimlad o ofalu am gleifion

Mae Lucy Phillips, 18 oed o Sir Benfro, wedi cael cynnig amodol i astudio nyrsio plant yng Nghaerdydd wedi iddi weithio mewn ysbyty maes yn ystod y pandemig.

Dywedodd bod ei chyfnod yn glanhau yno fis Rhagfyr wedi ei gwneud i "gwympo mewn cariad" gyda'r teimlad o ofalu am gleifion, a bod hynny wedi ei hysgogi i wneud cais.

"Rydych chi'n gallu helpu pobl pan maen nhw fwyaf bregus - pan maen nhw ar eu gwaethaf maen nhw'n troi at bobl fel nyrsys a gweithwyr iechyd ar gyfer ychydig o hapusrwydd," meddai.

Mae nifer y ceisiadau i astudio ôl-radd mewn meddygaeth a nyrsio plant ym Mhrifysgol Abertawe hefyd wedi cynyddu 28%.

Dywedodd pennaeth yr ysgol feddygol, Dr Keith Lloyd: "Mae gennym ni 92 o lefydd ar ein cwrs gradd meddygaeth. Rydyn ni'n cael 1,000 o geisiadau, yn cyfweld 300 ac fe allwn ni fod wedi cymryd 200 o'r rheiny yn hawdd."

Ledled y DU mae nifer y ceisiadau i astudio meddygaeth wedi cynyddu tua 20%, a dywedodd Dr Lloyd ei fod yn rhagweld y bydd hynny'n cynyddu ymhellach y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Keith Lloyd ei fod yn disgwyl i'r cynnydd barhau y flwyddyn nesaf

Dywedodd corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y bydd dros £227m yn cael ei wario ar ehangu hyfforddiant ar gyfer swyddi iechyd.

"Mae hyn yn golygu y bydd 85 lle ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer hyfforddiant meddygol ôl-radd," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y bydd "9% o gynnydd gyda nyrsio a bydwreigiaeth", ac y byddai hynny'n "cynrychioli'r lefel uchaf erioed o gomisiynu swyddi iechyd yng Nghymru".