Cymry yn derbyn anrhydeddau gan y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Jonathan PryceFfynhonnell y llun, Hugo Glendinning
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Pryce wedi ei urddo'n farchog am wasanaethau i ddrama ac elusen

Mae amryw o Gymry wedi cael eu cydnabod yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.

Maen nhw'n cynnwys unigolion a weithiodd yn ddiflino yn ystod y pandemig, unigolion yn y celfyddydau a'r byd chwaraeon.

Mae'r actor Jonathan Pryce wedi cael ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i ddrama ac elusen.

Cafodd ei enwebu am Oscar am ei rôl fel y Pab Ffransis yn The Two Popes, ac mae hefyd yn adnabyddus i wylwyr Game of Thrones.

Dywedodd Pryce ei fod yn "falch i feddwl bod y gwaith a'r delfrydau dwi wedi rhannu gyda fy ffrindiau a fy nghydweithwyr yn cael eu hanrhydeddu yn y ffordd yma."

Yn y byd chwaraeon, mae cyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, wedi derbyn MBE.

Mae Jones, 40, yn derbyn yr anrhydedd am ei wasanaeth i rygbi a chodi arian elusennol yng Nghymru.

"Roeddwn i wedi fy llethu ac yn emosiynol ac mae wedi dod o unman," meddai.

"Mae'n glod rhyfeddol ac yn rhywbeth sydd gen i gymaint o barch tuag ato."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Jones wedi cwblhau nifer o heriau codi arian elusennol yn ystod y pandemig coronafeirws gan gynnwys rhedeg marathon yn ei gegin

Mae Jones wedi ennill tair Camp Lawn a phedair cystadleuaeth Chwe Gwlad mewn gyrfa ryngwladol a oedd yn cynnwys 75 o gapiau - 33 o'r rheiny yn gapten.

Dim ond Alun Wyn Jones a Sam Warburton sydd wedi arwain eu gwlad fwy o weithiau.

Mae cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, hefyd wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i rygbi yng Nghymru.

Ymhlith y bobl eraill o Gymru sydd wedi derbyn anrhydedd mae Sophie Clodagh Mary Blain - CBE am ei gwasanaethau i Dreftadaeth, Nigel Vernon Short - CBE am ei wasanaethau i'r Economi yng Nghymru, Myer Glickman - OBE am ei gwasanaethau i Ddadansoddiad Iechyd a'r Athro Helen James sydd wedi derbyn OBE am ei gwasanaethau i Addysg Uwch.