Trydydd brechiad Covid yn rhan o brawf clinigol yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwirfoddolwyr yn byw o fewn 50 milltir i Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae gwirfoddolwyr yn Wrecsam wedi dechrau derbyn trydydd dos brechlyn yn erbyn coronafeirws fel rhan o dreial clinigol ledled y DU.

Mae'r bobl gyntaf i dderbyn dos atgyfnerthu wedi bod yn mynychu clinig arbennig yn y dref.

Bydd y treial yn casglu data ar ymateb imiwn y cleifion i drydydd dos o'r brechlyn, wrth i'r awdurdodau ystyried cyflwyno brechlynnau atgyfnerthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dyma'r astudiaeth glinigol ddiweddaraf mewn ymateb i'r pandemig yng Nghymru, lle mae dros 45,000 o bobl wedi gwirfoddoli i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ers mis Mawrth 2020.

Mae Wrecsam yn un o 18 safle ledled y DU i gymryd rhan yn astudiaeth COV-Boost, dolen allanol, ac mae angen dros 2,800 o wirfoddolwyr.

Bydd y treial hefyd yn asesu'r imiwnedd yn erbyn amrywiolion, gan gynnwys yr amrywiolyn Delta - gafodd ei ganfod gyntaf yn India - sydd yn trosglwyddo'n haws na straeniau eraill o'r feirws.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Orod Osanlou yw prif ymchwilydd y treialon clinigol

Dywedodd Dr Orod Osanlou, prif ymchwilydd astudiaeth COV-Boost: "Bellach mae gennym frechlynnau sy'n ddiogel ac yn effeithiol wrth atal Covid-19.

"Yr hyn yr ydym yn edrych amdano nawr gyda COV-Boost yw brechlyn atgyfnerthu, ac i asesu sut mae'r atgyfnerthu yn effeithio ar ymateb imiwnedd pobl a'u hamddiffyniad rhag y feirws.

"Yn gyffrous iawn, COV-Boost yw'r astudiaeth gyntaf yn y byd sy'n edrych ar hyn."

Ers i'r pandemig ddechrau, mae ymchwil a threialon clinigol wedi eu cynnal ledled Cymru i helpu i ddeall y feirws ac i ddatblygu triniaethau diogel ac effeithiol.

Bydd astudiaeth COV-Boost yn asesu'r ymatebion imiwnedd gan saith math gwahanol o frechlyn.

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio os ydyn nhw'n byw o fewn 50 milltir i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dywedodd Dr Osanlou: "Rydyn ni angen pobl sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac sydd dros 30 oed, ac a oedd wedi cael eu brechu erbyn diwedd mis Mawrth.

"Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw un dros 70 oed, ac unrhyw un sydd wedi cael brechlyn AstraZeneca."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue Cusack ymhlith miloedd o wirfoddolwyr o Gymru i gymryd rhan mewn treialon clinigol

Roedd Sue Cusack o Drefaldwyn yn un o'r cyntaf i dderbyn pigiad atgyfnerthu yn Wrecsam ddydd Llun.

"Doeddwn i ddim yn nerfus, roeddwn i'n fwy cyffrous mewn gwirionedd.

"Roedd yn teimlo'n arbennig i fod yn rhan o broses sy'n golygu y gall pobl eraill ei gael yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Dim ond un lle yng Nghymru sy'n ei gynnig. Roedd yn eithaf hawdd i gyrraedd yno, ac mae'n braf bod Cymru'n cymryd rhan fel rhan o'r DU, ac fel rhan o'r broses fawr."

Mae'n rhaid i wirfoddolwyr fynychu'r clinig bum gwaith dros gyfnod o flwyddyn, ac maent yn derbyn arian am roi eu hamser.

'Ymateb anhygoel'

Ers i'r pandemig ddechrau mae degau o filoedd o wirfoddolwyr o Gymru wedi cymryd rhan mewn treialon clinigol.

Dr Nicola Williams yw cyfarwyddwr ymchwil, cefnogaeth a darpariaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - y corff sydd wedi cydlynu'r treialon.

"Ers mis Mawrth y llynedd rydym wedi chwarae rhan lawn yn rhaglen ymchwil y DU, i gyflwyno'r holl astudiaethau iechyd cyhoeddus brys ym mhob un o'n hysbytai ledled Cymru, ac yn y gymuned hefyd," meddai.

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel ac rydym yn ddiolchgar iawn i dros 45,000 o bobl o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaethau hynny."

Dywedodd Dr Williams fod eu hymrwymiad yn allweddol i ddeall a rheoli'r pandemig.

Ychwanegodd: "Maen nhw wedi bod yn wirioneddol hanfodol wrth ddeall pa driniaethau sy'n gweithio, pa driniaethau sy' ddim yn gweithio, ac i gael y data cywir er mwyn helpu i gefnogi'r ymateb i'r pandemig."

Y disgwyl yw y bydd canlyniad y treial COV-Boost yn barod erbyn mis Medi, a bydd hynny yn llywio unrhyw raglen i gynnig brechlynnau atgyfnerthu i weddill y boblogaeth.